- Swyddogaeth:
- CEO
- Sector:
- Lleoliad:
- Conwy
Prin mae llwyddiant yn digwydd dros nos. Mae’n digwydd drwy fod yn benderfynol, drwy gysondeb a thrwy wrthod rhoi’r ffidil yn y to, hyd yn oed pan mae pethau’n anodd. Mae pob her yn rhan o'r daith ac mae pob rhwystr yn cynnig gwers. Dyfal donc a dyrr y garreg, daliwch ati i ddysgu, daliwch ati i gredu yn eich gweledigaeth. Bydd yna ddyddiau pan fyddwch chi’n meddwl a yw'n werth parhau, ond dyna'r dyddiau pwysicaf. Cymerwch un dydd ar y tro gyda dewrder a chysondeb a byddwch chi’n siŵr o edrych yn ôl a sylweddoli mai drwy ddyfalbarhau y gwnaethoch chi lwyddo.