BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Lou Peck

The International Bunch

Cysylltu gyda Lou Peck



Swyddogaeth:
Sylfaenydd
Sector:
Lleoliad:
Swansea

Amdano

Rwyf wedi cael gyrfa farchnata a chyhoeddi llwyddiannus am bron i 20 mlynedd. Nid ysgol oedd fy hoff le pan oeddwn yn ifanc. Yn ystod fy arddegau roeddwn yn byw yn Malta ac fe dreuliais ormod o amser allan yn mwynhau fy hun yn hytrach nag astudio! Serch hynny, cefais BSc mewn Rheolaeth Hamdden gydag un TGAUR yn unig, Diploma Proffesiynol y Sefydliad Marchnata Siartredig, Diploma Ymddygiad a Seicoleg Cŵn, Hyfforddiant Addysg Lefel 3 a thystysgrif Perchennog Cynnyrch Scrum – yn ogystal â bod yn weithiwr lledr hyfforddedig. Buasech chi’n gallu fy ngalw i’n un a ddechreuodd yn hwyrach o ran fy addysg!

Yn dilyn proses dileu swydd am yr ail waith, sefydlais fy ymgynghoriaeth gyhoeddi a marchnata fy hun o’r enw ‘The International Bunch’ yn 2016 ac roedd yn benderfyniad doeth. Rydw i’n gweithio o adref yn hyfrydwch Penrhyn Gŵyr er fy mod yn byw ar yr ochr llai hudolus gyda’r holl fwd, cocos, a chig oen sy’n pori ar gorsydd hallt. Mae gen i ferch ifanc, gŵr a sŵ fach ac maen nhw i gyd yn fy nghadw’n brysur iawn yn fy amser sbâr

Rydw i’n falch iawn o fod yn rhan o’r cynllun Mentora Busnes Cymru gan obeithio mentora unigolion sydd angen ychydig o gefnogaeth ychwanegol. Rydw i wedi cynorthwyo nifer o fusnesau mawr i ddechrau arni yn ogystal â mentora unigolion.

Gair i Gall

Peidiwch â dweud pethau negyddol am eich cystadleuwyr, neu bydd eich cwsmeriaid yn meddwl eich bod yn negyddol amdanyn nhw hefyd.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.