BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Lorraine Parkinson

?
Swyddogaeth:
Mentor Busnes
Sector:
Lleoliad:
Wales

Amdano

Mae Lorraine yn gyfrifydd Cymwys sydd wedi cael gyrfa lwyddiannus mewn Busnes ac fel Cyfarwyddwr Cyllid/Rheolydd Ariannol ar Fyrddau busnesau megis busnesau newydd, BBaCh a busnesau mwy. Yn ystod ei gyrfa, mae hi wedi llwyddo i hyfforddi timau a chynorthwyo busnesau drwy fonitro perfformiad a gwella proses er mwyn bod yn fwy proffidiol.

Mae gan Lorraine brofiad o ofynion a heriau busnes ar draws yr holl feysydd, nid mewn cyllid yn unig, ac mae hi wedi gweld a chynghori busnesau drwy bob cam heriol, o sefydlu, twf sylweddol, heriau perfformiad a gwella busnesau sy'n methu.

Mae Lorraine yn mwynhau'r ymagwedd gadarnhaol a geir mewn trafodaethau cydweithredol drwy fentora, a gweld y perchennog busnes yn mynd ymlaen gan ddefnyddio un o'r datrysiadau a drafodwyd gyda brwdfrydedd. Mae Lorraine yn edrych ymlaen at helpu perchnogion busnes yng Ngorllewin Cymru ar eu llwybr at lwyddiant pellach fel Mentor Busnes i Busnes Cymru.

Gair i Gall

Cyngor Lorraine ar lwyddo mewn busnes yw peidio â bod yn ofn gofyn am syniadau, awgrymiadau a chymorth. Mae eich sefyllfa yn newydd i chi, ond wrth rannu “her” gellir dod o hyd i ddatrysiad. Dyna pam mae’r gwasanaeth Mentora Busnes gan Busnes Cymru yn wych i’r mentor a’r sawl sy’n cael ei fentora.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.