BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Keith Jones

?
Swyddogaeth:
Sector:
Lleoliad:
Caerffili

Amdano

Mae gennyf brofiad eang o weithio yn y sectorau cyhoeddus, preifat a dielw, gan gynnwys gofal iechyd, twristiaeth, a dysgu a datblygu. Rwy’n gyn Brif Weithredwr ar elusen sy’n gweithio gyda phobl hŷn, yn gyn Gyfarwyddwr Anweithredol ar ddwy Ymddiriedolaeth GIG, ac wedi gweithio yn un o atyniadau ymwelwyr mwyaf llwyddiannus Ewrop.

Mae fy nghymwysterau a’m hyfforddiant yn cynnwys: BSc (Anrh) Seicoleg; wedi cwblhau Lefel 7 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Hyfforddi/Hyfforddi’r Hyfforddwr; wedi cwblhau sawl cwrs Busnes Cymru.

Ar hyn o bryd, rwy’n Ymddiriedolwr i 3 elusen genedlaethol yng Nghymru, ac un ym Mhowys.

Mae fy nghryfderau’n cynnwys rheoli prosiectau, datblygu personol, gwasanaethau cwsmer, ymgysylltu â’r gymuned a chynllunio busnes.

Gair i Gall

Cynllunio, cynllunio, cynllunio – ac ychydig mwy o gynllunio. Ac yna byddwch yn barod am newid.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.