- Swyddogaeth:
- Mentor Busnes
- Sector:
- Lleoliad:
- Wales
Amdano
Rwy'n fentor sy'n canolbwyntio ar y cleient ac yn rhoi'r hyder, y sgiliau a'r adnoddau i entrepreneuriaid i gynllunio, cychwyn a thyfu busnes llwyddiannus a chynaliadwy. Gyda dros 20 mlynedd o brofiad mewn swyddi hunangyflogedig a chyflogedig, rwy’n dod ag ystod o sgiliau a mewnwelediadau i helpu mentrau newydd i gymryd eu cam cyntaf neu eu cam nesaf. Rwy'n unigolyn cadarnhaol a rhagweithiol sy'n mwynhau herio a chefnogi eraill i wneud y gorau o'u potensial. Rwy'n cynnig man diogel i gleientiaid rannu, profi a datblygu eu syniadau, ac yn darparu clust i wrando a chyngor wedi'i dargedu i helpu unigolion i adnabod a gwireddu eu nodau.
Rwy'n cefnogi cleientiaid i gael dealltwriaeth fanwl o ofynion a heriau hunangyflogaeth, gan gynnwys cynllunio ariannol, adeiladu tîm, gwerthu a marchnata, dynameg y farchnad a chyflenwi gwasanaethau.
- Wedi sefydlu a rheoli busnes siop goffi llwyddiannus sydd wedi cyflawni twf flwyddyn ar ôl blwyddyn er gwaethaf ei sefydliad mewn marchnad heriol ymysg amodau economaidd anodd
- Wedi profi’r syniad busnes trwy gynnal ymchwil i’r farchnad i ddeall y farchnad leol, cystadleuwyr, ac anghenion cwsmeriaid.
- Wedi nodi a thrawsnewid uned fanwerthu wag a diffaith i greu siop goffi ddeniadol a bywiog yng nghalon y gymuned leol
- Wedi sicrhau cyllid sy’n cyd-fynd trwy weithio gyda chyfrifydd i gyflwyno cynllun busnes trylwyr i’r banc
- Wedi recriwtio, hyfforddi a rheoli 3 aelod staff cegin a blaen tŷ i ymgymryd â sifftiau 7 diwrnod yr wythnos
- Wedi adeiladu sylfaen gwsmeriaid ffyddlon trwy ddarparu croeso cynnes, gwasanaeth sylwgar, a rhaglen ddigwyddiadau a oedd yn adlewyrchu diddordebau ac anghenion y gymuned
- Wedi rheoli pob agwedd ar weithrediadau’r busnes gan gynnwys iechyd a diogelwch, hylendid bwyd, caffaeliad, rheoli stoc, cynnal a chadw offer, marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol, safonau gwasanaeth, ac adrodd
Gair i Gall
Gweithiwch yn galed a byddwch yn realistig gyda'ch nodau a'ch dyheadau