BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Julie Williams

The Coaching Den

Cysylltu gyda Julie Williams


Swyddogaeth:
The Cooking Counsellor
Sector:
Lleoliad:
Denbighshire

Amdano

HYFFORDDIANT A CHWNSELA YMGYNGHORIAETH NIWROAMRYWIAETH

Yn cefnogi unigolion i ffynnu yn gymdeithasol, yn emosiynol ac yn broffesiynol.

www.thecoachingden.org

Entrepreneur busnes / Awdur / Bardd / Eiriolwr Niwroamrywiaeth

Creu Cysylltiadau a Ffurfio Partneriaethau

Am dros 40 mlynedd rwyf wedi bod yn arwain amrywiol fentrau llwyddiannus, gan lywio fy ffordd drwy fyd deinamig busnes gyda chreadigrwydd a hwyl, a do rwyf wedi gwneud ambell i gamgymeriad ar y ffordd. Rwy'n angerddol dros gysylltu pobl â'i gilydd, meithrin cydweithredu ac adeiladu partneriaethau hirdymor tra'n:  

Cael Gwared ar Rwystrau i Gyfranogi

Fel eiriolwr dros niwroamrywiaeth, rwy'n gweithio i sicrhau tegwch. Rwy'n credu'n gryf fod pawb yn haeddu'i le wrth y bwrdd. P'un a yw hyn drwy newidiadau i bolisïau, ymgyrchoedd ymwybyddiaeth neu ddatrysiadau ymarferol. Rwy'n gweithio'n ddiflino i ddatgymalu unrhyw rwystrau sy'n amharu ar allu pobl i gyfranogi'n llawn. Rwyf hefyd yn:

Frwd dros Deithio

Mae fy mhasbort yn dyst i sawl antur. Mae teithio yn bwydo fy nghreadigrwydd, yn ehangu fy safbwynt ac yn fy atgoffa o'r hyn rydyn ni'n ei rannu fel bodau dynol. O farchnadoedd prysur Gwlad Thai i fynachlogydd tangnefeddus Gwlad Groeg, rwyf wedi ymdrochi yng nghyfoeth diwylliannau ledled y byd. Mae hyn wedi fy arwain i fod yn:

Gwnselydd a Mentor

Mae rhoi arweiniad i eraill yn rhywbeth rwy'n angerddol amdano. Fel cwnselydd rwyf wedi bod yn glust i wrando ar rai sy'n ceisio ymgodymu gyda throeon bywyd. Fel mentor, rwyf wedi grymuso entrepreneuriaid newydd, gan eu cynorthwyo i fireinio eu sgiliau, i sicrhau bod eu gweledigaeth yn dod yn realiti a'u bod yn gallu canfod eu llwybr unigryw eu hunain.

Gair i Gall

Peidiwch â bod ofn bod yn CHI. Mae Pobl yn credu mewn Pobl - mae didwylledd, brwdfrydedd a chred yn eich cynnyrch / gwasanaeth yn gonglfeini llwyddiant.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.