BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Glenn Boulton

Bramber Consulting Limited
Swyddogaeth:
Cyfarwyddwr
Sector:
Lleoliad:
Wales

Amdano

Fi yw sylfaenydd a pherchennog Bramber Consulting Limited, Cwmni Ymgynghori ar Arweinyddiaeth a Rheolaeth profiadol sy'n darparu cymorth busnes a rheoli i sefydliadau a BBaChau er mwyn gwella perfformiad, gwireddu cyfleoedd posibl i dyfu, gwella cryfder sefydliadol, rheolaeth fewnol, datblygiad personol a datblygiad tîm.

Roeddwn i’n arfer bod yn uwch reolwr proffesiynol yn sefydliad cyflenwi cynnyrch Kimberly-Clark Corporation, yn gyfrifol am arwain a rheoli tîm amlddisgyblaeth, hyblyg ac awdurdodedig. Roeddem yn gyfrifol am gyflenwi'r cynnyrch yn brydlon, yn unol â’r fanyleb ac am y gost gywir ar gyfer cyfrifon y DU a rhai rhyngwladol.

Mae fy mhrofiad hefyd yn cynnwys Hyfforddi a Mentora Swyddogion Gweithredol, Datblygu Busnes, Gwerthu B2B (busnesau newydd), Sefydlu Cyfrifon, Rheoli Cyfrifon, Ymgysylltu â Chwsmeriaid, Datblygu Cynnyrch, Rheoli Costau, Rheoli Credyd, Sicrhau Ansawdd, Cynllunio ac Amserlennu.

Rydw i’n Rheolwr Siartredig a Pheiriannydd Corfforedig sydd â 21 mlynedd o brofiad hyfforddi ym maes Rheolaeth ac Arweinyddiaeth ac rydw i wedi cefnogi rhaglenni hyfforddi ar gyfer y Sectorau Diwydiannol ac Amddiffyn. Rydw i hefyd yn Gymrawd y Sefydliad Ymgynghori gyda phrofiad diwydiannol helaeth mewn gweithgynhyrchu FMCG, rheoli gweithrediadau traws-swyddogaethol a rheoli prosiectau.

Mae Glenn yn gynghorydd profiadol â sgiliau cyfathrebu rhagorol. Gall feithrin perthynas mewn dim o dro gyda rhanddeiliaid a phersonél allweddol ar bob lefel o fewn y sefydliad.

Gair i Gall

Bydd datblygu’ch pobl yn cryfhau’ch busnes!


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.