BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Gemma Angharad Morris-Brown

Gemma Angharad

Cysylltu gyda Gemma Angharad Morris-Brown



Swyddogaeth:
Cyfarwyddwr
Sector:
Lleoliad:
Wales

Amdano

Rheolaeth gwerthiant llawn a rheolaeth a mentora lefel Bwrdd.

Rwy’n byw ger Pen-y-bont ar Ogwr, ond rwyf wedi gweithio ledled y DU, Iwerddon ac Ewrop. Mae Gemma hefyd yn Farchnatwr Siartredig.

Wedi ennill sawl gwobr, dros 15 mlynedd o brofiad fel Rheolwr Gwerthiant llwyddiannus, Rheolwr Marchnata lefel bwrdd a Phennaeth Adran, gyfochr ag ennill cymwysterau lefel uwch CIM, Gwobrau, Diplomâu a MBA Marchnata.

Wedi gweithio mewn busnesau yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus, b2b a b2c ar raddfa leol a byd-eang, mae fy agwedd at adeiladu busnesau eithriadol o gadarn ar gyfer twf tymor hir wedi sicrhau fy mod yn cael fy adnabod fel un o’r goreuon yn y busnes am gefnogaeth barhaus a chydlynu.

“Rwyf wedi gweld sawl busnes yn llwyddo i ennill mantais gystadleuol, ond rwyf wedi gweld llawer yn methu hefyd.

Y datguddiad arsylwol hwn sydd wedi fy ngwneud i yn ymgynghorwr gwych i roi cyngor llwyddiannus a diduedd.

Byddwch yn falch eich bod wedi gweithio gyda mi. Byddaf yn sicrhau bod eich busnes yn gryf, yn ymdopi â heriau ac yn ehangu, cyn belled â’ch bod chithau'r un mor ymroddgar â mi…..

Dyna fy addewid”

Fy mhŵer cryfaf yw mentora pobl sydd â gweledigaeth ac eisiau symud yn eu blaenau. Mae gennyf dros 12 diploma mewn marchnata i goroni’r holl sgiliau a nodir uchod, yn ogystal â phrofiad blaenllaw o fywyd go iawn - mae hynny’n brin.

Rwy’n amyneddgar ac yn feddylgar ond hefyd yn benderfynol a di-ofn - gallaf eich arwain i gyrraedd eich sefyllfa ddelfrydol, heb i chi sylweddoli!

Gair i Gall

Manteisiwch ar y daith wallgof, canolbwyntiwch ar eich gweledigaeth gan barhau i fod yn angerddol.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.