BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Gary Dunsford

?

Cysylltu gyda Gary Dunsford


Swyddogaeth:
Sector:
Lleoliad:
Vale of Glamorgan

Amdano

Rwy’n arbenigo mewn canfod gwreiddyn problemau llif gwaith, ac yna gwerthuso datrysiadau posibl gan geisio’r cyfuniad o syniadau sy’n cydbwyso cost yn erbyn gwasanaeth cwsmer orau.

Mae fy ngradd mewn economeg yn fy ngalluogi i ystyried proffidioldeb gwerthiannau syml i fuddsoddiadau cymhleth; mae fy nghymhwyster arwain prosiectau gwregys du sigma six yn darparu’r fethodoleg ar gyfer datrys problemau; ac mae’r 30 blynedd o brofiad sydd gennyf yn y maes cadwyn gyflenwi gemegol byd-eang yn fy ngalluogi i gyfathrebu a defnyddio’r sgiliau hyn yn effeithlon mewn amgylchedd busnes, yn ogystal â chynnig arbenigedd manwl wrth reoli stoc, cydbwyso’r cyflenwad a’r galw a chadwyni cyflenwi. Caiff ffocws y busnes hwn ei gydbwyso gan fy niddordeb ym mhrofiad y cwsmer a 14 blynedd fel cyfarwyddwr ymddiriedolwr pensiwn, sy’n fy annog i weld materion o safbwynt y cwsmer.

Er fy mod yn gweithio’n bennaf gyda chwmnïau rhyngwladol sy’n gwerthu busnes i fusnes, rwyf hefyd yn gweithio gydag elusennau, ac rwy’n awyddus i helpu cwmnïau sydd wedi’u hysgogi gan gynaliadwyedd.

Gair i Gall

Mae stoc yn costio arian, ond mae gwasanaeth cwsmer gwael yn fwy costus yn yr hirdymor.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.