BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Gareth Shears

Sanctuary Financial Planning/ Bear Strength Limited

Cysylltu gyda Gareth Shears



Swyddogaeth:
Cyfarwyddwr
Sector:
Lleoliad:
Caerdydd

Amdano

Rwyf wedi bod yn Gyfarwyddwr cwmni dillad ‘crossfit’ am y deng mlynedd diwethaf, yn rhedeg cwmni e-fasnach ac yn mynychu cystadlaethau ‘crossfit’ ledled y wlad - www.bearstrength.co.uk yn canolbwyntio ar werthiannau, marchnata, cyfryngau cymdeithasol, cyllidebau, hysbysebu, dylunio a chynhyrchiant a deall a darparu’r holl ofynion sydd i’w disgwyl gan gyfarwyddwr. Rwyf hefyd yn Gyfarwyddwr a Chynllunydd Ariannol i Sanctuary Financial Planning, sydd yn darparu cynlluniau ariannol i gleientiaid ar gyfer eu holl anghenion, o forgeisi i bensiynau a buddsoddiadau.

Rwyf wedi bod yn gynghorydd ariannol ers 2009, ac wedi ennill gradd BA Anrhydedd mewn Rheolaeth a Diploma mewn Cynllunio Ariannol.

Fy mhrif gryfderau yw arwain, gwneud penderfyniadau, dylanwadu a pherswadio eraill a deall pobl drwy addasu i sefyllfaoedd/senarios gwahanol gyda sgiliau cyfathrebu a gwrando gwych.

Roeddwn hefyd yn yr heddlu am dros chwe blynedd lle bues yn datguddio ac yn delio ag amrywiaeth o sefyllfaoedd sydd wedi fy helpu i addasu i sefyllfaoedd posib a meddwl yn gyflym ac yn rhesymegol gan asesu'r effaith ar eraill.

Gair i Gall

Adeiladwch rwydwaith o bobl gefnogol sydd yn gallu cynnig cyngor, awgrymiadau a phobl rydych y gallu ymddiried ynddynt. Credwch ynddoch chi eich hun a gosodwch nodau amserol a realistig.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.