BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Emma Lampka, CFIOSH

SHEQ-Sol Ltd

Cysylltu gyda Emma Lampka, CFIOSH



Swyddogaeth:
Cyfarwyddwr
Sector:
Lleoliad:
Wrexham

Amdano

Rwy'n rhedeg fy Ymgynghoriaeth Amgylcheddol, Iechyd a Diogelwch fy hun ers 2008.  Rwy'n cynnig gwasanaethau ym maes Amaethyddiaeth, Gweithgynhyrchu, Gweithgynhyrchu Bwyd, y Weinyddiaeth Amddiffyn, Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol, Peirianneg Drydanol, Adeiladu, darparwyr Gwastraff a Gofal Iechyd.

Rwy'n cynnig Ymgynghoriaeth ar yr Amgylchedd, Iechyd a Diogelwch, Hyfforddiant, Parhad Busnes, Amgylcheddol, Diogelwch Prosiect ac Archwilio i safonau Cydymffurfiaeth Cymdeithasol 45001, 18001, 50001 a SA8000.

Dechreuais fy ngyrfa ym maes Adnoddau Dynol, a symudais at y maes Iechyd, Diogelwch a Hyfforddi. Rwyf wedi gweithio i sefydliadau FMCG (Nwyddau Defnyddwyr sy’n Symud yn Gyflym) mawr yn y DU, Iwerddon, Ffrainc, yr Iseldiroedd a Gwlad Belg.

Mae gennyf gymwysterau yn y maes Adnoddau Dynol, Cwnsela a Seicoleg, a gyfochr â'm cymwysterau proffesiynol rwyf hefyd yn ymddiriedolwr i elusen.  Rwy'n un o'r ychydig Gymrodorion Siartredig benywaidd gyda'r Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (IOSH). 

Cefais fy mhenodi fel y Cadeirydd benywaidd cyntaf ar gyfer Herefordshire Health and Safety Group, sy'n cynnig cymorth Amgylcheddol, Iechyd a Diogelwch i fusnesau bach yn ardal Swydd Henffordd, gan gynnwys seminarau i'w helpu nhw i feithrin sgiliau newydd am ddim.

Sefydlais Wasanaeth Elusennol yng ngogledd Cymru ar gyfer Beiciau Gwaed Cymru hefyd, a oedd yn cludo gwaed, cynnyrch gwaed a llaeth y fron ar gyfer babanod cynamserol am ddim. Wedi sefydlu'r gwasanaeth, a dod yn Gadeirydd benywaidd cyntaf i Elusen Genedlaethol yng Nghymru, datblygais nifer o sgiliau newydd a meithrin dealltwriaeth o sut mae'r sector gwirfoddol, a'r trydydd sector yn gweithio.

Fy mhrif gryfderau yw cefnogi eraill, canfod problemau a chanolbwyntio ar eu datrys drwy ddilyn llwybr o osod targedau, cynllunio a monitro cynnydd.  Ar brydiau, gall hyn gynnwys gofyn cwestiynau i herio'n meddyliau, ond y peth da am hyn yw mae'n gwneud i ni feddwl am gyfleoedd a ffyrdd eraill i fynd o'i chwmpas hi.

Gair i Gall

Lluniwch gynllun busnes, gosodwch dargedau personol y gallwch eu cyflawni a pheidiwch â bod yn galed arnoch chi'ch hun os nad yw pethau'n disgyn i'w lle'n syth - mae amynedd, dycnwch a chael y cymorth iawn yn hollbwysig.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.