- Swyddogaeth:
- Cyfarwyddwr
- Sector:
- Lleoliad:
- Vale of Glamorgan
Amdano
Rwy’n arweinydd gweithrediadau profiadol ac yn strategydd busnes sy’n frwd dros helpu busnesau i weithio mewn ffordd fwy doeth a thyfu’n gynaliadwy. Yn fy swydd fel Cyfarwyddwr fy musnes fy hun, a Phennaeth Gweithrediadau mewn asiantaeth farchnata, rwy’n rheoli popeth o weithrediadau dydd i ddydd a chynllunio adnoddau i symleiddio prosesau, gan sicrhau y cynhelir prosiectau yn ddidrafferth a bod cleientiaid yn cyflawni eu canlyniadau angenrheidiol. Mae fy nghefndir yn ymwneud ag arweinyddiaeth gorfforaethol a rhedeg fy mentrau personol, felly rwy’n deall gwirioneddau busnesau o bob gogwydd.
Rwy’n ymarferydd PRINCE2 ardystiedig gyda MSc mewn Busnes a Rheolaeth (gan arbenigo mewn cyllid) a BA (Anrh) mewn Rheoli Digwyddiadau a Thwristiaeth Ryngwladol. Rwyf wedi ymgymryd â sawl cwrs cyfryngau cymdeithasol i gadw sglein ar fy sgiliau marchnata digidol, medrusrwydd mewn AI ac rwyf wedi bod yn defnyddio meddalwedd cyfrifyddu Xero ers dros 10 mlynedd. Dros y blynyddoedd, rwyf wedi creu cynlluniau busnes, a chynghori ar gynlluniau busnes, sydd wedi sicrhau dros £1.2 miliwn mewn cyllid, rhywbeth rwy’n falch iawn ohono.
Rwy’n drefnus iawn, yn meddwl yn fasnachol, ac mae dod o hyd i ddatrysiadau ymarferol i heriau cymhleth yn gwneud imi ffynnu. Rwyf hefyd yn credu’n fawr mewn dysgu gydol oes, felly rwyf bob amser yn ymchwilio syniadau newydd, tueddiadau, a newidiadau yn y farchnad i gadw ar y blaen ac i ddod â chipolygon newydd i fy ngwaith.
Fel mentor, rwy’n cyfuno fy arbenigedd technegol gyda dull empathig sy’n seiliedig ar y byd go iawn. Rwy’n gwybod y gall rhedeg a thyfu busnes deimlo’n llethol, a fy nod yw cynnig arweiniad sydd yn strategol ond hefyd wedi ei wreiddio mewn ymarferoldeb bob dydd. Fy nod yw helpu eraill i ddod o hyd i gyfleoedd, gwneud penderfyniadau hyderus, a chyflawni eu huchelgeisiau, a hynny heb golli golwg ar yr hyn sydd bwysicaf oll iddyn nhw.
Gair i Gall
Blaenoriaethwch lif arian drwy’r amser, dyma sylfaen eich busnes. Heb lif arian iach, ni all y syniadau gorau oroesi na thyfu.