BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Edward Ball

EBA Consulting Limited (EBassociates)

Cysylltu gyda Edward Ball



Swyddogaeth:
Cyfarwyddwr
Sector:
Lleoliad:
Wales

Amdano

Ar ôl graddio treuliodd Edward Ball 10 mlynedd yn gweithio’n rhyngwladol yn y DU ac Ewrop gyda chwmnïau fel Shell a Mobil. Yn dilyn hyn aeth ymlaen i weithio i sawl busnes bach a chanolig am gyfnod o tua 5 mlynedd cyn dechrau ei fusnesau ei hun yn cyflogi rhwng 5 a 50 o bobl.

Diolch i’r profiad cefndir hwn, medrodd gamu i’r byd ymgynghori a dyna mae wedi bod yn ei wneud dros yr ugain mlynedd diwethaf. Mae wedi canfod dros y blynyddoedd fod cynnal dadansoddiad cychwynnol o fusnes yn gwbl hanfodol er mwyn gweld ble mae'r sefydliad arni. Yna mae'n bwysig deall beth mae’r perchnogion a’r cyfarwyddwyr yn ceisio ei gyflawni. Wedyn gellir rhoi strategaeth ar waith i gyrraedd y prif nodau.

Mae Edward o’r farn fod ei ddatblygiad proffesiynol parhaus ei hun yn bwysig mewn sawl maes, ac un ohonynt oedd ennill cymwysterau mentora ffurfiol. Roedd yn ystyried hyn yn sgìl pwysig oherwydd pobl sy’n sicrhau llwyddiant busnesau yn fwy na heb.

Gair i Gall

Gweithiwch ar y busnes, nid ynddo. Rhaid i berchnogion fod â rheolaeth dros bob agwedd – mae hyn yn dechrau gan amlaf gyda deall y sefyllfa ariannol, ac yna symud ymlaen i’r broses a’r farchnad. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.