BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Debbie Basden

Balance Your Outlook

Cysylltu gyda Debbie Basden


Swyddogaeth:
Hyfforddwr Bywyd Rhyngwladol
Sector:
Lleoliad:
Neath Port Talbot

Amdano

Cefais fy ngeni a’m haddysgu yn y DU gyda BSc o Brifysgol Caerdydd ac MSc o Brifysgol Durham cyn dechrau fy ngyrfa yn ne Affrica. Ar ôl 4 blynedd dychwelais i weithio ym Mryste o fewn y sector yswiriant am 10 mlynedd, cyn symud i Kenya fel Ymgynghorydd Rheoli gyda PricewaterhouseCoopers yn canolbwyntio ar y sector preifat.  

Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, wrth drawsnewid strwythurau, diwylliannau a phrosesau sefydliadol yn rhanbarth Dwyrain Affrica, gwnes i hefyd wella fy nghymwysterau proffesiynol fel; Hyfforddwr Bywyd Prif Ymarferydd Rhaglennu Niwroieithyddol (NLP), Ymarferydd EFT/ Tapio yn ogystal ag Uwch Ymarferydd Trawsnewid Craidd a Diploma mewn Rheoli Adnoddau Dynol.  

A llwyddais i ddod â rhai o’r technegau hyn yn llwyddiannus i’m prosiectau ymgynghori, wrth ddechrau gweithio gydag unigolion hefyd; gan ymarfer yn rheolaidd ers diwedd 2013, yn cynnal cannoedd o sesiynau preifat gyda chleientiaid sydd wedi’u lleoli yn y DU, yn Ewrop, y Dwyrain Canol, Affrica ac UDA. 

Bellach yn byw yn ne Cymru, rwy’n parhau i gynorthwyo pobl ar draws y byd i gydbwyso eu hagwedd a gwella eu hiechyd meddwl (goresgyn trawma / PTSD, iselder / gorbryder / panig, OCD, ffobiâu fel pryfed cop, ofn siarad yn gyhoeddus etc) gwastraffu amser yn ogystal â helpu unigolion i wella eu galluoedd (e.e cyflwyno neu sgiliau cyfweliad), datrys problemau busnes (e.e sut i wella gwaith tîm neu wella eu CV). 

Profiad - ·

 

10 mlynedd fel Hyfforddwr Bywyd rhan amser 

20 mlynedd fel Ymgynghorydd Rheoli Annibynnol yn nwyrain Affrica yn arbenigo mewn Hyfforddiant, Ailstrwythuro Sefydliad, Gwella Prosesau, Recriwtio, Cynllunio Strategol a Dylunio Swyddi. Profiadol iawn ym maes rheoli adrannau a phrosiectau o fewn cyfyngiadau ansawdd, darpariaeth a chyllideb. 

 2 flynedd fel Uwch Ymgynghorydd Rheoli gyda PwC Nairobi Kenya yn gweithio yn y sector preifat / gwasanaethau ariannol 

10 mlynedd mewn rolau amrywiol gyda Sun Life Assurance ym Mryste 

Datblygu Ceisiadau ar y cyd (JAD) 

Hwylusydd Gweithdai 1996 – 1997 

Cydlynydd Rhaglen Strategaeth TG, 1995 – 1996 

Rheolwr Prosiect, 1994 – 1995 

Rheolwr Cynllunio a Chefnogi, 1993 – 1994 

Arweinydd Prosiect a Rheolwr Gofynion, 1990 – 1993 

Arweinydd Tîm/ Dadansoddwr Systemau Busnes, 1987 – 1990 

3 blynedd fel Dadansoddwr Systemau Busnes, Infogold, Corfforaeth Eingl America De Affrica 

Sgiliau/Cryfderau:  

Digynnwrf, dadansoddol, blynyddoedd lawer o brofiad ym maes arwain a rheoli, cefndir diwylliannol amrywiol, strategol, amyneddgar, hyfforddwr hyfforddwyr a chyfeillgar. 

Cymwysterau/Achrediadau:  

• Hyfforddwr Bywyd Gradd 2 – Kuunganisha Training & Coaching / Theo Bruekers Institute 

• Adnoddau NCC – Diploma Rheoli Adnoddau Dynol

• Rheoli’r Prince Project 

• Leadership Trust – Arweinyddiaeth Rheoli a Hunan Ddatblygiad 

• Sgiliau Hyfforddi Blessing and White  

• Arferion Stephen Covey 7.

• International ANLP – Prif Ymarferydd NLP 

• EFTi – Ymarferydd EFT Ardystiedig ac Achrededig 

• ANLP – Aelod Proffesiynol o Gymdeithas NLP 

• EFT Guild – Aelod/Ymarferydd 

• Hyfforddwr Bywyd Gradd 1 ac Ymarferydd NLP - Theo Bruekers Institute, yr Iseldiroedd 

• Aelod o Sefydliad Rheoli Adnoddau Dynol Nairobi 

• Sefydliad Materion Diwylliannol – Gweithdai Cynllunio Strategol, Hyfforddi’r Hyfforddwr

• Computer Task Group – Hwylusydd Datblygu Cymwysiadau ar y cyd  

Gair i Gall

Dewch o hyd i rywbeth rydych chi’n mwynhau ei wneud a chwmni sydd â gwerthoedd a chredoau tebyg i chi. Byddwch yn driw i chi’ch hun a chyfathrebwch pan na fydd pethau fel yr oeddech wedi ei ddisgwyl. 

Find out more
website : Balance Your Outlook

Business Wales are in no way responsible for 3rd party content


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.