BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Daniel James Davies

DJME Davies Rentals
Swyddogaeth:
Cyfarwyddwr
Sector:
Lleoliad:
Carmarthenshire

Amdano

Rydw i wedi gweithio yn y diwydiant lletygarwch am dros 20 mlynedd ac wedi ennill profiad mewn safleoedd bwyd amrywiol. Roeddwn yn rhedeg caffi  trafnidiaeth symudol bychan am 5 mlynedd, ac yn dilyn hynny adeiladais fwyty trwyddedig. Dros gyfnod o 11 mlynedd datblygais y bwyty i fod yn lle poblogaidd i fwyta drwy gydol y flwyddyn. Mae gen i agwedd ymarferol iawn tuag at fusnes ond rydw i hefyd yn dirprwyo tasgau er mwyn datblygu tasgau adeiladu eraill.

Erbyn hyn rydw i’n prydlesu fy mwyty er mwyn parhau i dyfu fy mhortffolio o eiddo. Mae gennym 19 o unedau gyda thenantiaid, sy’n cynnwys unedau preswyl, masnachol ac aml-osod.

Rydw i hefyd yn gogydd cymwys ac yn osodwr trydanol domestig. Mae gennyf dystysgrifau cymorth cyntaf, diogelwch bwyd, gwobr blasu gwin, deilydd trwydded bersonol, profi dyfeisiau cludadwy a thystysgrifau lletygarwch amrywiol eraill.

Rydw i’n berson sylwgar ac yn canolbwyntio ar wneud penderfyniadau busnes sy’n cynorthwyo i dyfu’r busnes a chreu mwy o elw.

Pan oeddwn yn prynu ac adnewyddu un eiddo, ymddangosais ar y rhaglen deledu ‘Homes under the Hammer’.

Rydw i’n ymweld ag arwerthiannau’n rheolaidd ac rwy’n angerddol am adnewyddu a chynnal a chadw eiddo. Oherwydd pellter, asiantwyr sy’n rheoli rhai o’n eiddo, ond rydym yn rheoli eiddo cyfagos ein hunain. Golyga hyn bod gennym Drwydded Rhentu Doeth.

Gyda nifer o fy mhrosiectau, rydw i’n edrych ar y ffigyrau i gadarnhau a yw prosiect yn un hyfyw ai peidio, a byddaf yn rheolaidd yn llunio taenlenni ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd. Rydw i’n mwynhau siarad am fusnes, taflu syniadau a chanfod gwahanol atebion i broblemau anodd.

Gair i Gall

Mae ateb i bob problem.  Edrychwch arno fel her.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.