BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Colin Charles Lewis

?

Cysylltu gyda Colin Charles Lewis



Colin Charles Lewis
Swyddogaeth:
Sector:
Lleoliad:
Monmouthshire

Amdano

Cyfarwyddwr Anweithredol profiadol, yn gweithio fel rhan o dîm i helpu i gyflawni amcanion y sefydliad, ac yn meddu ar graffter masnachol. Gyda dros 20 mlynedd o brofiad o Reoli Prosiect [fel aelod o’r Gymdeithas Rheoli Prosiectau] a phrofiad Rheoli Tîm, rwyf yn ymwneud â gwasanaethau ariannol a ffensio gerddi!

Rwyf wedi cefnogi prosiectau cylch bywyd llawn; o gynnig cysyniadau/strategaethau i gyflawni newid parhaol, ar draws ystod o sefydliadau. Rwyf hefyd wedi datblygu modelau gweithredu ac wedi cyflwyno newidiadau sefydliadol i gyd-fynd â’r modelau newydd [gan gynnwys dysgu sut i osod ffensys gardd, gan gael fy nwylo’n fudr yn llythrennol!].  Rwyf wedi cefnogi a dylanwadu ar randdeiliaid ar lefel weithredol i groesawu newid; gan gyflawni gwelliannau effeithlonrwydd, gostyngiadau mewn costau a refeniw newydd yn barhaus; bob amser yn ceisio darparu datrysiadau pragmatig.

Gair i Gall

Gwybod sut mae da yn edrych. Yn aml bydd pobl yn mynd ar ôl perffeithrwydd, am gost, pan fydd digon da yn sicrhau’r buddion - ac erbyn i chi gyflawni perffeithrwydd bydd y byd wedi symud ymlaen.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.