BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Cleopatra Brown

?

Cysylltu gyda Cleopatra Brown



Swyddogaeth:
Rheolwr Gyfarwyddwr ac Uwch Dywysydd
Sector:
Lleoliad:
Pembrokeshire

Amdano

A hithau wedi ennill amryw o wobrau marchnata a busnes, mae gan Cleopatra Browne ddiddordeb brwd mewn marchnata digidol a datblygu gwefannau. Yn angerddol a brwdfrydig tu hwnt, mae Cleopatra wedi tyfu ei busnes Celtic Quest Coasteering Ltd. o un fenyw a fan, i ennill y wobr Profiad Gorau i Ymwelwyr yng Nghymru yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol 2013.

Ar ôl gweithio yn y diwydiant awyr agored ers blynyddoedd lawer, yn rhoi cyfarwyddyd a hyfforddiant ar amryw o weithgareddau gan gynnwys dringo, syrffio, caiacio, hwylio ac yn y blaen, gwelodd Cleopatra gyfle i arbenigo yn y gweithgaredd sy’n prysur dyfu, arforgampau.

Mae arforgampau yn golygu dod o hyd i’ch ffordd ar hyd darn o arfordir, gan archwilio'r gylchfa effaith lle mae’r môr yn cwrdd â’r tir. Gan deilwra pob antur i weddu i bob anturiaethwr unigol, mae Cleopatra a'i thîm o Arweinwyr Arforgampau yn gallu dewis llwybr addas i unrhyw un 8 oed a hŷn (yn cynnwys rhai sy’n methu nofio!). Gall anturiaethau gynnwys tramwyo ar lefel y môr, neidio o un graig i’r llall, nofio antur, chwarae mewn nodweddion dŵr (peiriant golchi, peiriant sychu dillad, fflysio toiled) a heb anghofio neidio oddi ar glogwyni hyd at 10 metr o uchder!

Yn ôl yn 2009, gyda chyllideb fach iawn ond misoedd y gaeaf o'i blaen, aeth Cleopatra ati i ail-frandio Celtic Quest Coasteering i’w ffurf bresennol. Ail-ddyluniodd y logo a brand, dysgodd ei hun i godio html er mwyn dylunio ac adeiladu'r wefan a datblygodd strategaeth farchnata ar-lein, gan ddefnyddio rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol a gwefannau adolygu annibynnol.

Erbyn hyn, mae Celtic Quest Coasteering yn frand blaenllaw ledled y byd, gydag enw da am ragoriaeth.

Trwy gyfuno ei busnes personol a’i phrofiad marchnata gydag agwedd gadarnhaol, mae Cleopatra yn ffynnu ar heriau sy’n cael eu gosod ganddi hi ei hun ac eraill. Mae ei chreadigrwydd unigryw bob amser yn byrlymu gyda syniadau a gwelliannau.

Gair i Gall

Mae rhywfaint o risg ynghlwm wrth bopeth. Os na fentrwch chi, wnewch chi byth lwyddo! Bydd yna fethiannau ar hyd y ffordd, ond bydd mentro’n ofalus yn arwain at lwyddiant!


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.