BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Chris Williams

Innovative Training Solutions

Cysylltu gyda Chris Williams



Chris Williams
Swyddogaeth:
Perchennog
Sector:
Lleoliad:
Swansea

Amdano

Gweithiwr proffesiynol dysgu a datblygu gyda chraffter busnes cryf a dros 20 mlynedd o brofiad. Rwyf yn arbenigo mewn rheoli’r cylch hyfforddi cyflawn (ADDIE – dadansoddi, dylunio, datblygu, gweithredu, gwerthuso).

Mae gen i brofiad sylweddol hefyd o ddarparu ystod eang o raglenni hyfforddi a hwyluso digwyddiadau gweithdy gyda ffocws ar bynciau sgiliau meddal a phynciau cysylltiedig â Deallusrwydd Emosiynol. Rwyf yn tynnu ar fy mhrofiad o swyddi uwch reolwyr yn ogystal ag arwain fy musnes llwyddiannus fy hun yn darparu gwasanaethau i gleientiaid ar draws y sectorau preifat a chyhoeddus.

Yn ogystal â bod wedi gweithio gydag ystod eang o fusnesau bach a chanolig, mae fy ngyrfa hefyd wedi cynnwys rolau rheoli gyda chorfforaethau rhyngwladol gan gynnwys 3M (De Affrica) ac yn fwy diweddar, Amazon UK, gan gynnwys ymwneud â phrosiectau datblygu arweinyddiaeth Amazon UK.

Sgiliau Allweddol:

• PCGE/Cert Ed (ADDIE, arbenigedd ISD) a chymhwyster CIPD

• Dros 18 mlynedd o brofiad mewn arwain prosiectau hyfforddi a dysgu a datblygu.

• Ymwneud â rhaglen datblygu arweinyddiaeth Amazon UK

• Gwasanaethau Busnes a Chwsmeriaid (hyfforddwr BTEC wedi’i achredu)

• Datblygiad deunyddiau ac adnoddau cwrs ar gyfer digwyddiadau hyfforddi pwrpasol

• Dylunio a datblygu hyfforddiant olrhain cofnodion a systemau.

Gair i Gall

Dechreuwch yn fach, meddyliwch yn fawr, mwynhewch y daith.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.