Ymweliad Marchnad Allforio i Efrog Newydd a Philadelphia

Math o ddigwyddiad:
Overseas
Dyddiad ac amser:
to

Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad marchnad allforio â New York a Philadelphia, UDA. Caiff y digwyddiad hwn ei gynnal pan fydd cynrychiolwyr o gwmnïau o Gymru yn mynychu Confensiwn Rhyngwladol Bio yn Philadelphia, UDA.

Pam UDA?

Yr Unol Daleithiau yw economi fwyaf y byd ac un o'r marchnadoedd pwysicaf ar gyfer masnach a buddsoddiad rhyngwladol. Gan gynnig mynediad at sylfaen cwsmeriaid fawr ac amrywiol, sefydliadau ymchwil blaenllaw'r byd, corfforaethau byd-eang a chadwyni cyflenwi helaeth, mae'r UDA yn darparu cyfleoedd sylweddol i fusnesau Cymreig sy'n ceisio tyfu eu hallforion.

Mae'r ymweliad hwn yn cynnig cyfle i archwilio cyfleoedd busnes yn Philadelphia ac Efrog Newydd, dau o'r canolfannau masnachol mwyaf dylanwadol ar Arfordir Dwyreiniol yr Unol Daleithiau.

Mae Efrog Newydd yn un o ganolfannau busnes ac ariannol blaenllaw'r byd, yn gartref i frandiau byd-eang, buddsoddwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau. Mae'n cynnig cyfleoedd rhagorol i fusnesau Cymru nodi cwsmeriaid newydd, datblygu perthnasoedd masnachol, denu buddsoddiad a chael mewnwelediadau gwerthfawr i farchnad yr Unol Daleithiau.

Mae Philadelphia yn ganolfan fasnachol fawr sydd â chryfderau ar draws amrywiaeth o sectorau a chysylltiadau rhagorol â marchnadoedd allweddol ledled y rhanbarth. Mae ei hecosystem fusnes ffyniannus a'i lleoliad strategol yn ei gwneud yn borth ardderchog i gwmnïau sy'n awyddus i sefydlu partneriaethau newydd ac ehangu eu presenoldeb yng Ngogledd America.

Pam bod yn rhan o’r Ymweliad?

Bydd yn rhoi’r cyfle i chi arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.

Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa ar y canlynol:

  • Ffordd gosteffeithiol o ymweld â'r farchnad

    • Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
    • Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
    • Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
    • Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
    • Cael eich cynnwys yn neunydd marchnata Llywodraeth Cymru ar gyfer yr ymweliad.

Y Gost 
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio.

Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni. Y gost yw £1,800. Mae hyn yn cynnwys:

  • Hedfan allan ac yn ôl
  • Teithiau trosglwyddo o fewn y farchnad (os byddwch yn teithio gyda'r grŵp)
  • Llety am 6 noson gyda brecwast Dydd Sadwrn – Dydd Gwener)
  • Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
  • Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata

*Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni, yn amodol ar fod yn gymwys.

Manylion y Digwyddiad

Pryd: 6 – 10 Mehefin 2027

Sector: Gwyddorau Bywyd

Ble: Philadelphia, UDA

Trefn
6 Mehefin – Gadael am Philadelphia
7-11 Mehefin – Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen o gyfarfodydd wedi’u trefnu yn New York a Philadelphia. 
11 Mehefin – Dychwelyd i Gymru. Cyrraedd Maes Awyr Heathrow ar 12 Mehefin. 

Trefniant Gwasanaeth Cyfarfodydd

Os hoffech elwa i’r eithaf ar eich amser yn y digwyddiad gallwn gynnig cymorth drwy raglen o 3-4 o gyfarfodydd ar eich cyfer a fydd wedi’u trefnu gan un o’n hymgynghorwyr busnes. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.

Sylwch, os hoffech fanteisio ar y cymorth hwn, rhaid ichi gyflwyno eich cais o leiaf 10 wythnos cyn yr ymweliad neu'r arddangosfa.

Os caiff eich cais ei gyflwyno ar ôl 26 Mawrth 2027, ni allwn warantu y bydd digon o amser i gynnig y cymorth ychwanegol hwn i chi.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
26 Mawrth 2027 - Teithio a llety gyda chyfarfodydd wedi'u trefnu ymlaen llaw.
7 Mai 2027 - Teithio a llety yn unig.

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn cael e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn cael yr e-bost yma neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith fasnach cysylltwch â'n blwch Masnach Ryngwladol - internationaltrade@llyw.cymru

*Mae costau yn dibynnu ar gymhwysedd a’r lle sydd ar gael. Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau nifer cyfyngedig o becynnau ar y gyfradd a hysbysebwyd. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i gynnal ceisiadau y tu hwnt i'n dyraniad; fodd bynnag, gall ceisiadau a ddaw i lawr ar ôl y dyddiad cau neu ar ôl i'r holl becynnau a ddyrannwyd gael eu cymryd, fod yn destun costau uwch nag y cyhoeddwyd.

How to register

Register my interest

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.