Ymweliad â Marchnad Allforio yn Nenmarc

Math o ddigwyddiad:
Overseas
Dyddiad ac amser:
to

Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad â'r Farchnad Allforio i Copenhagen, Denmarc. Mae'r ymweliad hwn yn cyd-fynd â dirprwyaeth o Gwmnïau o Gymru sy’n mynychu WindEurope yn Copenhagen, Denmarc.

Pam Denmarc?
Mae Denmarc yn un o economïau mwyaf arloesol Ewrop a mwyaf cysylltiedig yn rhyngwladol, gan gynnig cyfleoedd ar draws amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys ynni adnewyddadwy, gweithgynhyrchu uwch, technoleg, gwyddorau bywyd, bwyd a diod, a'r economi werdd. Mae Denmarc yn adnabyddus am ei ffocws cryf ar gynaliadwyedd, ymchwil a datblygu, ac mae’n darparu marchnad ddeniadol i fusnesau o Gymru sy'n awyddus i archwilio cyfleoedd allforio newydd ac adeiladu partneriaethau rhyngwladol.

Bydd yr ymweliad hwn yn galluogi cwmnïau i gael mewnwelediad uniongyrchol i'r farchnad, cwrdd â darpar gwsmeriaid a phartneriaid, cryfhau cysylltiadau presennol, ac archwilio cyfleoedd ar gyfer twf yn un o amgylcheddau busnes mwyaf deinamig Gogledd Ewrop.

Pam mynd ar yr ymweliad â'r farchnad allforio i Copenhagen, Denmarc?
Bydd yr ymweliad hwn yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.

Drwy fod yn rhan o’r ymweliad hwn, byddwch yn elwa ar y canlynol:

  • Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad.
  • Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad.
  • Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan. 
  • Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig.
  • Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio.
  • Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata gan Lywodraeth Cymru.

Y Gost 
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio.

Mae’r gost fesul cynrychiolydd cwmni yn £1000, sy’n cynnwys:

  • Tocynnau hedfan dwyffordd 
  • Trosglwyddiadau  yn y farchnad (os byddwch yn teithio gyda'r grŵp)
  • Llety am 4 noson gyda brecwast (Dydd Llun – Dydd Gwener)
  • Mynd i ddigwyddiadau yn y farchnad
  • Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata gan Lywodraeth Cymru

*Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni, yn amodol ar fod yn gymwys.

Manylion y Digwyddiad
Pryd: 19-23 Ebrill 2027
Sector – Aml-sector
Ble: Copenhagen, Denmarc


Trefn
19 Ebrill – Gadael am Copenhagen
19-22 Ebrill – Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu ymlaen llaw o gyfarfodydd yn Copenhagen.
23 Ebrill – Nôl i Gymru.

Gwasanaeth Trefnu Cyfarfodydd (Dewisol)
Os hoffech elwa i’r eithaf ar eich amser yn y digwyddiad gallwn gynnig cymorth drwy raglen o 3-4 o gyfarfodydd ar eich cyfer a fydd wedi’u trefnu gan un o’n hymgynghorwyr busnes. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.

Nodwch: Os hoffech fanteisio ar y cymorth hwn, mae’n rhaid i chi gyflwyno eich cais o leiaf 10 wythnos cyn dyddiad ymadael yr ymweliad â’r farchnad allforio neu’r arddangosfa.

Os caiff eich cais ei gyflwyno ar ôl 5 Chwefror 2027 ni allwn warantu y bydd digon o amser i gynnig y cymorth ychwanegol hwn yn effeithiol i chi.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
5 Chwefror 2027 – Dyddiad cau ar gyfer y pecyn arddangoswyr neu ymwelwyr gan gynnwys teithio, llety, a chyfarfodydd wedi’u trefnu ymlaen llaw.
19 Mawrth 2027 – Dyddiad cau ar gyfer y pecyn teithio a llety yn unig. Nid yw gofod arddangos na chyfarfodydd wedi'u trefnu ymlaen llaw wedi'u cynnwys.

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr – os nad ydych yn derbyn yr e-bost hwn neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith fasnach cysylltwch â'n blwch Masnach Ryngwladol  - internationaltrade@llyw.cymru

*Mae costau yn dibynnu ar gymhwysedd a lle ar gael. Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau nifer gyfyngedig o becynnau ar y gyfradd a hysbysebwyd. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i gynnal ceisiadau y tu hwnt i'n dyraniad. Fodd bynnag, gall ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau neu ar ôl i'r holl becynnau a ddyrannwyd gael eu cymryd, fod yn destun costau uwch na’r rhai a hysbysebwyd. Er mwyn sicrhau'r gyfradd a hysbysebwyd, rydym yn argymell gwneud cais cyn gynted â phosibl.

How to register

Register my interest

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.