Galwadau agored am gyllid rhyngwladol

Galwadau agored i sefydliadau i wneud ceisiadau am gyllid a chefnogaeth rhyngwladol.

Mae Ail Galwad Agored UNITE bellach ar agor. 

Mae UNITE yn rhaglen a gyd-ariennir gan Horizon Europe sy'n dod â rhanbarthau ledled Ewrop ynghyd i adeiladu ecosystem arloesi iechyd digidol heb ffiniau. Gall sefydliadau yng Nghymru gydweithio â phartneriaid Ewropeaidd i ddatblygu, profi a graddio atebion iechyd digidol arloesol sy'n mynd i'r afael â heriau gofal iechyd go iawn. 

Mae'r alwad ar agor rhwng 10 Medi 2026 a 10 Rhagfyr 2026, gyda phrosiectau llwyddiannus yn rhedeg o 1 Ebrill 2027 i 30 Medi 2028. Mae cyfanswm cyllideb o €6 miliwn ar gael ar gyfer yr alwad, gyda chyllid o hyd at €1miliwn fesul prosiect. 

Bydd angen i brosiectau llwyddiannus ddatblygu atebion sy'n cefnogi:

  • Arloesiadau technoleg ddwfn i sicrhau iechyd cyfartal i'r boblogaeth gyfan 
  • Arloesi digidol i fynd i'r afael ag argyfwng y gweithlu iechyd 

Darganfyddwch fwy am yr Alwad, gan gynnwys meini prawf cymhwysedd a'r cymorth sydd ar gael i ymgeiswyr, drwy wylio ein Gweminar UNITE.

Gallwch hefyd ymweld â gwefan UNITE i ddysgu mwy am y rhaglen a chysylltu â phartneriaid prosiect posibl drwy Lwyfan Paru UNITE.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Gwahodd Ceisiadau am Gyllid Vinnovate 2026

Mae galwad VInnovate 2026 bellach ar gau i geisiadau newydd. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynigion llawn yw 10 Hydref 2026, am 23:59 CET.

Mae VInnovate 2026 yn fodel cyllido a gefnogir gan Fenter Vanguard, sy'n rhaglen gydweithredol sy'n cefnogi moderneiddio ac arloesi diwydiannol trwy gydweithrediad traws-ranbarthol a arweinir gan ddiwydiant.

Darganfyddwch fwy am yr Alwad, gan gynnwys gweld meini prawf cymhwysedd.

Bydd angen i brosiectau llwyddiannus ddatblygu atebion a fydd yn cefnogi:

  • diwydiant craffach - integreiddio technolegau digidol i ddiwydiannau er mwyn creu cyfleoedd newydd a gwella'r rhai presennol
  • diwydiant mwy cynaliadwy - y symudiad tuag at ddiwydiant niwtral i'r hinsawdd
  • diwydiant mwy ymreolaethol - lleihau'r ddibyniaeth ar ranbarthau eraill ar gyfer arloesiadau technoleg dwfn

Dysgwch fwy am Alwad Agored VInnovate a chyfleoedd eraill ar gyfer cydweithio rhyngwladol drwy wylio ein Gweminar Cyfleoedd Cydweithio Rhyngwladol yma.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.