- Math o ddigwyddiad:
- Overseas
- Dyddiad ac amser:
- to
Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad marchnad allforio â Emiradau Arabaidd Unedig
Pam Emiradau Arabaidd Unedig?
Mae'r Emiradau Arabaidd Unedig (UAE) yn farchnad fywiog a deinamig, ac mae'n cynnwys y 10 marchnad uchaf ar gyfer Allforion Cymru, gyda Dubai yn brif ffocws i fusnesau.
Mae Dubai yn parhau i dyfu ac arallgyfeirio, ac mae nid yn unig yn llwybr mynediad mawr i ranbarth y Gwlff ond mae bellach yn ganolfan gymudo ar gyfer y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica yn ehangach.
Mae Dubai yn cynnig cyfleoedd allforio da i fusnesau Cymru ym mhob sector blaenoriaeth; gweithgynhyrchu gwerth uchel, technoleg, gwyddor bywyd, cynhyrchion defnyddwyr, ynni glân a bwyd a diod.
Pam Mynd ar yr Ymeliad?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.
Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa o’r canlynol:
- Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad.
- Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad.
- Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan.
- Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig.
- Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata ar gyfer yr ymweliad.
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmn. Mae’r gost yn £1,500. Mae hyn yn cynnwys:
- Hedfan allan ac yn ôl
- Trosglwyddiadau o fewn y gyrchfan (os byddwch yn teithio gyda'r grŵp)
- Llety am 6 noson gyda brecwast (Dydd Sul – Dydd Gwenor)
- Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Mae’r cynnig hwn ar gael i ddau gynrychiolydd o bob cwmni.
Manylion Y Digwyddiad
Pan fyddwn yn – 23-29 January 2027
Sectorau – Aml Sector
Ble – Dubai
Trefn
23 Ionawr – Gadael am Dubai
25 – 28 Ionawr – Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd yn Dubai.
29 Ionawr – Dychwelyd i Gymru
Trefniant Gwasanaeth Cyfarfodydd
Os hoffech wneud y gorau o'ch amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig cymorth i drefnu rhaglen o gyfarfodydd 3-4 i chi gan un o'n hymgynghorwyr busnes. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.
Sylwch, os hoffech y gefnogaeth hon, yna rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn i ymweliad y farchnad allforio neu'r arddangosfa ymadael.
Os cyflwynir eich cais ar ôl yr amser hwn 13 Tachwedd 2027 yna ni allwn warantu bod digon o amser i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwn yn effeithiol.
13 Tachwedd 2026 – Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau arddangoswyr a ymwelwyr gan gynnwys teithio, llety, a chyfarfodydd wedi’u trefnu ymlaen llaw.
17 Rhagfyr 2026 – Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ymwelwyr ar gyfer pecynnau teithio a llety yn unig.
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn yr e-bost yma neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith fasnach cysylltwch â'n blwch Masnach Ryngwladol - internationaltrade@llyw.cymru
*Mae costau yn dibynnu ar gymhwysedd a lle ar gael. Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau nifer gyfyngedig o becynnau ar y gyfradd a hysbysebwyd. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i gynnal ceisiadau y tu hwnt i'n dyraniad; fodd bynnag, gall ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau neu ar ôl i'r holl becynnau a ddyrannwyd gael eu cymryd, fod yn destun costau uwch nag y cyhoeddwyd.
How to register
Cofrestrwch eich mynegiant o ddiddordeb a byddwn yn anfon e-bost atoch cyn gynted ag y bydd recriwtio'n agor ac y bydd y digwyddiad yn mynd yn fyw.
Register my interest