Cyfarwyddyd, Document

Awgrymiadau da ar gyfer gwella eich effeithlonrwydd - Manwerthu

Manwerthu

Cyhoeddwyd gyntaf: 21 Hydref 2024
Diweddarwyd diwethaf: 21 Hydref 2024
Lawrlwytho'r ddogfen: 20.55 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.

Mae’r sector manwerthu yn cynhyrchu swm sylweddol o wastraff - dros 9 miliwn tunnell y flwyddyn. Amcangyfrifir bod hyn yn costio £400 miliwn i’r diwydiant mewn costau gwaredu’n unig. Pan mae gwir gost gwastraff yn cael ei chynnwys, hynny yw amser a gollir, deunyddiau, dŵr, costau trin a storio, mae’r gost wirioneddol yn debygol o fod dros £2 biliwn.

  • Gallech leihau gwastraff bwyd a deunydd pacio a gostwng allyriadau CO2 trwy archwilio pob cam o gylch oes cynnyrch i bennu lle gallwch wella effeithlonrwydd. Dylai hyn gynnwys pob cam o ddylunio, cynhyrchu, prosesu a gweithgynhyrchu, i gludo, storio, rheweiddio a dosbarthu.
  • Dylech amlygu ffyrdd i leihau gwastraff deunydd pacio trwy gyflawni archwiliad o’ch deunydd pacio. Dylech gynnwys pob math o ddeunydd pacio, ar y silff, eilaidd a thrydyddol.
  • Gofynnwch i gyflenwyr ddefnyddio deunydd pacio y gellir ei ailddefnyddio ar gyfer cynhyrchion a dosbarthu, lle y bo’n bosibl.
  • Ceisiwch gael cyflenwadau’n lleol, a phan cânt eu dosbarthu, ystyriwch a oes modd lleihau nifer y teithiau trwy eithafu llwythi a chynllunio llwybrau’n effeithiol.
  • Gwnewch yn siŵr y caiff systemau gwresogi, boeleri, aerdymheru a golau eu rhaglennu a’u cynnal yn gywir.
  • Caiff llawer o ddŵr ac arian ei fflysio i ffwrdd. Trwy wneud buddsoddiad cymharol fach mewn offer fel argaeau seston, cyfyngwyr llif, awyryddion, a thapiau neu ddrylliau clicied ar gyfer pibelli dŵr, gallech chi wneud arbedion sylweddol.
  • Oes gennych chi ollyngiadau neu dapiau sy’n diferu? A yw eich tapiau’n troi i ffwrdd yn llawn? Gall tap sy’n diferu wastraffu mwy na 5,500 litr o dŵr y flwyddyn.
  • A yw eich ystafelloedd ymolchi yn defnyddio systemau fflysh ddeuol? Gall argaeau seston, cyfyngwyr llif neu dapiau taro leihau faint o ddŵr sy’n cael ei ddefnyddio.
  • Bydd gosod tapiau sy’n cau eu hunain neu sydd â synwyryddion is-goch yn lleihau faint o dŵr rydych yn ei ddefnyddio a gwella hylendid. Bydd cynnal a chadw tapiau’n rheolaidd yn sicrhau nad yw dyddodion sebon a chen yn achosi gollyngiadau na thapiau sownd. Gellid cynnal a chadw cawodydd hefyd i osgoi rhwystrau a pherfformiad is.
  • Os yw eich sefydliad yn trafod dros 50 tunnell o ddeunydd pacio yn flynyddol a bod ei drosiant dros £2 miliwn y flwyddyn, mae angen i chi gydymffurfio â Rheoliadau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr. Rhaid i gynhyrchwyr deunydd pacio rhwym gofrestru bob blwyddyn hefyd
  • Mae golau’n cyfrif am 20 y cant o’r holl ddefnydd ynni trydan. Gall mesurau syml fel switshis a reolir gan ddeiliadaeth a switshis amser leihau costau
  • Gall costau rheweiddio fod yn sylweddol. Gallwch gymryd camau syml i leihau faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio hyd at 20 y cant. Gallwch wneud gwelliant sylweddol trwy gynnal offer, osgoi gor-stocio ac addysgu staff gyda thaflenni cyfarwyddiadau clir. Gwiriwch nad yw’r unedau’n rhedeg ar dymheredd is na’r angen, a gwnewch yn siŵr na chaiff cabinetau eu gosod mewn mannau poeth heb awyriadau digonol.
  • Mae gan WRAP nifer o adnoddau ar gael ar gyfer y sector manwerthu, gan gynnwys offer, arweiniad, adroddiadau’r sector marchnadoedd a mwy. Ewch i http://www.wrap.org.uk/category/sector/retail for more information
Lawrlwytho'r ddogfen: 20.55 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.