- Math o ddigwyddiad:
- Overseas
- Dyddiad ac amser:
- to
Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i arddangos gyda ni neu ymweld â Chonfensiwn Rhyngwladol BIO yn Philadelphia, UDA
Pam Confensiwn Rhyngwladol BIO?
Mae'r Sefydliad Arloesi Biotechnoleg (BIO) yn cynrychioli mwy na 1,100 o gwmnïau biotechnoleg, sefydliadau academaidd, canolfannau biotechnoleg gwladol a sefydliadau cysylltiedig ledled yr Unol Daleithiau a mwy na 30 o wledydd eraill.
Caiff Confensiwn Rhyngwladol BIO ei gydnabod fel un o ddigwyddiadau biotechnoleg mwyaf y byd, gan ddod â bron i 20,000 o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant o fwy na 76 o wledydd ynghyd a hwyluso tua 70,000 o gyfarfodydd partneru. Mae'n darparu llwyfan heb ei ail i fusnesau gysylltu â darpar bartneriaid, buddsoddwyr, cwsmeriaid ac arweinwyr y diwydiant o bob rhan o'r sector gwyddorau bywyd byd-eang.
Mae'r digwyddiad hwn a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yn cynnig cyfle ardderchog i fusnesau o bob maint godi eu proffil rhyngwladol, archwilio cyfleoedd allforio newydd ac adeiladu perthnasoedd masnachol gwerthfawr â sefydliadau o bob cwr o'r byd.
Pam cymryd rhan yng Nghonfensiwn Rhyngwladol BIO?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y sector hwn.
Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa ar y canlynol:
- Ffordd gosteffeithiol o ymweld â'r farchnad.
- Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
- Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
- Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
- Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Ar gyfer y digwyddiad hwn, gallwch gymryd rhan naill ai fel arddangoswr neu fel ymwelydd:
Arddangoswr – Y gost yw £4,800*. Mae hyn yn cynnwys:
• Hedfan allan ac yn ôl
• Y daith o’r maes awyr ac yn ôl (os byddwch yn teithio gyda'r grŵp)
• Llety am 6 noson gyda brecwast (Dydd Sadwrn – Dydd Gwener)
• Stondin arddangos a chofrestriad ar gyfer yr arddangosfa
• Tocyn i’r arddangosfa
• Mynediad ar-lein/catalog
• Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Mae’r cynnig hwn ar gael i ddau gynrychiolydd o bob cwmni.
Ymwelydd – Y gost yw £1,800*. Mae hyn yn cynnwys:
- Tocynnau hedfan dwyffordd
- Y daith o’r maes awyr ac yn ôl (os teithiwch gyda'r grŵp)
- Llety am 6 noson (gyda brecwast) (Dydd Sadwrn – Dydd Gwener)
- Pas mynediad ar gyfer hyd y sioe
- Mynediad i stondin Cymru
- Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni.
Manylion y Digwyddiad
Pryd: 6 – 10 Mehefin 2027
Sector: Gwyddorau Bywyd
Ble: Philadelphia, UDA
Trefn
6 Mehefin – Gadael am Philadelphia
7-10 Mehefin – Confensiwn Rhyngwladol BIO / Cyfle i gwmnïau gynnal eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen o gyfarfodydd wedi’u trefnu ymlaen llaw yn Philadelphia.
10 June – Dychwelyd i Gymru. Cyrraedd Heathrow ar 11 Mehefin.
Gwasanaeth Trefnu Cyfarfodydd
Os hoffech elwa i’r eithaf ar eich amser yn y digwyddiad gallwn gynnig cymorth drwy raglen o 3-4 o gyfarfodydd ar eich cyfer a fydd wedi’u trefnu gan un o’n hymgynghorwyr busnes. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.
Sylwch, os hoffech fanteisio ar y cymorth hwn, rhaid ichi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn yr ymweliad neu’r arddangosfa. Os caiff eich cais ei gyflwyno ar ôl 26 Mawrth 2027, ni allwn warantu y bydd digon o amser i gynnig y cymorth ychwanegol hwn i chi.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
26 Mawrth 2027 – Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau arddangoswyr ac ymwelwyr gan gynnwys teithio, llety, a chyfarfodydd wedi’u trefnu ymlaen llaw.
7 Mai 2027 – Dyddiad cau ar gyfer y pecyn teithio a llety yn unig. Dim gofod arddangos na chyfarfodydd wedi’u trefnu ymlaen llaw.
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn cael e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn cael yr e-bost yma neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith fasnach cysylltwch â'n blwch Masnach Ryngwladol - internationaltrade@llyw.cymru
*Mae’r ffi arddangos yn destun TAW
*Mae costau yn dibynnu ar gymhwysedd a’r lle sydd ar gael. Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau nifer cyfyngedig o becynnau ar y gyfradd a hysbysebwyd. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i gynnal ceisiadau y tu hwnt i'n dyraniad; fodd bynnag, gall ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau neu ar ôl i'r holl becynnau a ddyrannwyd gael eu cymryd, fod yn destun costau uwch nag y cyhoeddwyd.
How to register
Bydd recriwtio yn agor yn fuan! Cofrestrwch eich diddordeb nawr a byddwch yr un cyntaf i wybod pan fydd ceisiadau ar gael.
Register my interest