ADIPEC 2026

Math o ddigwyddiad:
Overseas
Dyddiad ac amser:
to
Lleoliad:
ADNEC

Hoffai Llywodraeth Cymru eich gwahodd i gymryd rhan yng Nghynhadledd ADIPEC 2026.

Pam ADIPEC?
Mae ADIPECyn blatfform rhyngwladol sy’n dod â chynhyrchwyr ynni byd-eang, defnyddwyr, ac arloeswyr ynghyd i gyflymu datrysiadau cyffrous a chynnydd trawsnewidiol ar gyfer dyfodol ynni.

Dyma arddangosfa allweddol ar gyfer busnesau yn y sector ynni, ac mae’n cynnig cyfleoedd allforio da i fusnesau o Gymru, a bydd dros 2,250+ o arddangoswyr o 60 o farchnadoedd a thros 205,000 o bobl yn mynychu.

Pam ddylech gymryd rhan yn ADIPEC?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.

Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa ar y canlynol:

•    Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad. 
•    Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
•    Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
•    Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
•    Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
•    Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
 

Pwy all ymgeisio? 
•    Cwmnïau sy’n gwerthu cynnyrch, gwasanaeth neu gysyniad sy’n cyfrannu at waith trawsnewid Cymru yn wlad sero net.

•    Cwmnïau yn y gadwyn gyflenwi ynni sy’n cefnogi ymdrechion i weithio at effeithlonrwydd ynni neu allyriadau, iechyd a diogelwch, gwelliannau cymdeithasol ac amgylcheddol, neu ddiwygio’r farchnad ynni.

•    Cwmnïau sy’n cefnogi’r gwaith o ddatgomisiynu asedau ynni tanwydd ffosil presennol.

•    Prosiectau Dal a Storio Carbon (CCS), neu brosiectau Dal, Defnyddio a Storio Carbon (CCUS).

•    Rhaid i gwmnïau ddangos eu cyfraniad at waith trawsnewid Cymru i sero net mewn unrhyw negeseuon marchnata neu hyrwyddo.
 

Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Ar gyfer y digwyddiad hwn, gallwch gymryd rhan naill ai fel arddangoswr neu fel ymwelydd: 

Arddangoswr - Mae'r gost arddangos naill ai yn £6,000 am stondin mawr neu’n £4,800* am uned fetr sgwâr.
•    Tocynnau hedfan dwyffordd 
•    Y daith o’r maes awyr ac yn ôl yn yr UAE (os teithiwch gyda'r grŵp)

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn yr e-bost yma neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith fasnach cysylltwch â'n blwch Masnach Ryngwladol - internationaltrade@llyw.cymru

Mae'r broses recriwtio bellach ar gau

How to register

Mae lleoedd ar gyfer cyd-arddangoswyr yn cau yn fuan! Gwnewch gais nawr!


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.