Rheolwch eich dysgu a’ch datblygiad mewn un lle.
Defnyddiwch yr Hwb Sgiliau i greu a diweddaru eich Cynllun Datblygu Personol (CDP), gwneud cais am gyllid hyfforddiant achrededig, cwblhau e-ddysgu a gweld eich cofnod Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yn Storfa Sgiliau Cyswllt Ffermio.
Mewngofnodwch gan ddefnyddio eich manylion mewngofnodi unigol ar gyfer One Login RPW Ar-lein.
Yn yr adran hon
Yr Hwb Sgiliau yw gwasanaeth ar-lein Cyswllt Ffermio ar gyfer rheoli eich gweithgareddau dysgu a datblygu.
Mae’r Hwb Sgiliau yn rhoi mynediad mewn un lle i’ch Cynllun Datblygu Personol eich hun, ceisiadau am gyllid hyfforddiant, modiwlau e-ddysgu a’ch cofnod DPP eich hun yn Storfa Sgiliau.
Nid oes mynediad at y gwasanaethau hyn drwy wefan BOSS Busnes Cymru mwyach.
Cynllun Datblygu Personol
Crëwch eich Cynllun Datblygu Personol eich hun a’i ddefnyddio i gofnodi eich holl ddysgu a datblygiad.
Gwneud cais am gyllid Hyfforddiant Achrededig
Gwnewch gais a chyflwyno ceisiadau am gyllid tuag at gyrsiau hyfforddiant achrededig.
E-ddysgu
Gweld a chwblhau casgliad o dros 200 o fodiwlau e-ddysgu Cyswllt Ffermio, gan gynnwys yr e-ddysgu gorfodol ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).
Storfa Sgiliau
Gweld eich cofnod dysgu a datblygu eich hun. Mae Storfa Sgiliau yn cofnodi’n awtomatig eich holl bresenoldeb ac ymgysylltiad â Cyswllt Ffermio, gan gynnwys digwyddiadau a gweithgareddau.
Mae’r Hwb Sgiliau yn dod â gwasanaethau dysgu a datblygu allweddol Cyswllt Ffermio ynghyd mewn un lle.
Gallwch ei ddefnyddio i:
- reoli eich dysgu a’ch datblygiad
- cael mynediad at eich Cynllun Datblygu Personol
- gwneud cais am gyllid hyfforddiant achrededig
- cwblhau modiwlau e-ddysgu
- gweld eich cofnod eich hun yn Storfa Sgiliau
Rhaid eich bod wedi ailgofrestru gyda Cyswllt Ffermio ers 1 Ebrill 2026.
Bydd gan bob unigolyn sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio fynediad awtomatig at gyfrif Hwb Sgiliau.
Rhaid i unigolion cofrestredig fewngofnodi i’r Hwb Sgiliau gan ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost a chyfrinair ag y maent yn eu defnyddio i fewngofnodi fel unigolyn i One Login RPW. Mae canllawiau ar ailgofrestru ar gael yma. Ailgofrestru gyda Cyswllt Ffermio a symud i One Login GOV.UK | Cyswllt Ffermio
Mae canllawiau ar gael i’ch helpu i lywio eich ffordd dwy’r Hwb Sgiliau a chael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnoch.
Defnyddiwch ein canllawiau cam wrth gam i gael gwybod sut i:
- fewngofnodi i’r Hwb Sgiliau
- gael mynediad at eich Cynllun Datblygu Personol a’i ddiweddaru
- wneud cais am gyllid hyfforddiant achrededig
- gael mynediad at e-ddysgu
- weld eich cofnod yn Storfa Sgiliau
[Lawrlwytho PDF or User Guide Hwb Sgiliau]
Os oes angen cymorth arnoch i gael mynediad at yr Hwb Sgiliau neu i’w ddefnyddio, cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol neu Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio.
Ffôn: 03456 000 813
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am tan 5pm
Croesewir galwadau yn Gymraeg.
Dewch o hyd i’ch swyddog datblygu lleol: Eich Swyddog Datblygu Lleol | Cyswllt Ffermio