Mae Llywodraeth Cymru yn symud o Borth y Llywodraeth i GOV.UK One Login ar gyfer pob gwasanaeth cymorth gwledig digidol. Bydd y newid hwn yn effeithio ar sut rydych yn cael mynediad at wasanaethau Cyswllt Ffermio.
Gweithredwch nawr i sicrhau y gallwch barhau i gael mynediad at yr holl gymorth sydd ar gael.
- Crëwch eich cyfrif One Login GOV.UK drwy ymweld â: www.gov.uk
- Unwaith y bydd eich cyfrif One Login wedi’i sefydlu, byddwch yn gallu ailgofrestru gyda Cyswllt Ffermio – Gallwch wneud hyn drwy RPW ar-lein, unwaith y bydd gennych gyfrif One Login.
- Bydd angen eich rhif CON presennol arnoch hefyd yn ystod y broses ailgofrestru. (Mae llythyr wedi’i anfon at bob defnyddiwr yn rhestru pob rhif CON sy’n gysylltiedig â’u busnes.)
Bydd gweithredu nawr yn sicrhau na fyddwch yn colli mynediad at wasanaethau Cyswllt Ffermio na’ch cofnod Storfa Sgiliau.
Mae mynediad at eich cofnod Storfa Sgiliau hanesyddol yn hanfodol os ydych yn gwneud cais i fod yn rhan o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu angen cymorth cam wrth gam, gall tîm y Ganolfan Wasanaeth eich cynorthwyo – cysylltwch â nhw ar 03456 000 813.
Canllawiau gam-wrth-gam i gymorthwyo cwsmeriad newydd a phresennol RPW Ar-lein gofrestru ar gyfer Cyswwlt Ffermio.