BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Rhwydwaith Ein Ffermydd

Mae rhwydwaith Ein Ffermydd ledled Cymru ar flaen y gad o ran rhannu arferion gorau a dulliau arloesol newydd drwy arbrofion ymarferol wedi’u hariannu ar y fferm, gan roi mynediad i chi at arbenigwyr yn y diwydiant a'r gwaith ymchwil diweddaraf ar ffermydd drwy ddigwyddiadau ar y fferm ac ar-lein.

Mae'r rhwydwaith yn cynnwys gwahanol haenau, gan ganiatáu mwy o gyfleoedd i ffermwyr Cymru gael eu cynorthwyo i gynnal arbrofion ar y fferm i ddatblygu eu busnesau o dan y fframwaith Rheoli Tir yn Gynaliadwy a'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).

Haenau Rhwydwaith Ein Ffermydd

arbrofion unigol hirdymor ar y fferm

gwireddu eich syniad drwy arbrawf ar y fferm yn y byr dymor

arbrawf grŵp gyda sawl fferm

llywio cydweithio drwy brosiectau grŵp dynodedig

Rhwng Rhagfyr 2023 i Fawrth 2026, ffurfiodd 288 o fusnesau rhwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio.


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.