BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Llwybr Olyniaeth

Dechreuwch y Sgwrs... 

Y bygythiad mwyaf i unrhyw fferm deuluol yn y tymor hir yw diffyg cynllun olyniaeth cadarn.

Mae'n ymwneud â'r cynllun tymor hir ar gyfer eich busnes ffermio – y ffeithiau, yr amcanion a'r modd i gyflawni'r canlyniad gorau i bawb.

Yn syml, mae'n fwy na dim ond gwneud ewyllys!

Bydd eich cynllun olyniaeth yn unigryw i'ch busnes – does dim un opsiwn yn ateb i bawb. Mae pob teulu yn wahanol, mae pob busnes yn wahanol. Yr hyn fydd byth yn newid yw'r angen i bob teulu ffermio ystyried dyfodol y busnes a chynllunio ymlaen llaw ar gyfer gwahanol amgylchiadau – po gyntaf y gorau.

Pam fod angen cynllunio olyniaeth?

Y prif risgiau o beidio cael cynllun fel hyn yw, er enghraifft:

  • ffraeo gydag aelodau'r teulu
  • canlyniadau ariannol andwyol / effaith treth etifeddiaeth / treth enillion cyfalaf
  • straen a phryder, yn aml ar yr un pryd â cholled a galar
  • colli cartref/bywoliaeth i aelodau'r teulu
  • effaith ar fferm y teulu os caiff ei gwerthu, ei hollti neu ei rhannu
  • Cyfathrebu gwael o fewn busnes teuluol yn arwain at aneffeithlonrwydd a blaengynllunio gwan 

I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.