Dechreuwch y Sgwrs...
Y bygythiad mwyaf i unrhyw fferm deuluol yn y tymor hir yw diffyg cynllun olyniaeth cadarn.
Mae'n ymwneud â'r cynllun tymor hir ar gyfer eich busnes ffermio – y ffeithiau, yr amcanion a'r modd i gyflawni'r canlyniad gorau i bawb.
Yn syml, mae'n fwy na dim ond gwneud ewyllys!
Bydd eich cynllun olyniaeth yn unigryw i'ch busnes – does dim un opsiwn yn ateb i bawb. Mae pob teulu yn wahanol, mae pob busnes yn wahanol. Yr hyn fydd byth yn newid yw'r angen i bob teulu ffermio ystyried dyfodol y busnes a chynllunio ymlaen llaw ar gyfer gwahanol amgylchiadau – po gyntaf y gorau.
Pam fod angen cynllunio olyniaeth?
Y prif risgiau o beidio cael cynllun fel hyn yw, er enghraifft:
- ffraeo gydag aelodau'r teulu
- canlyniadau ariannol andwyol / effaith treth etifeddiaeth / treth enillion cyfalaf
- straen a phryder, yn aml ar yr un pryd â cholled a galar
- colli cartref/bywoliaeth i aelodau'r teulu
- effaith ar fferm y teulu os caiff ei gwerthu, ei hollti neu ei rhannu
- Cyfathrebu gwael o fewn busnes teuluol yn arwain at aneffeithlonrwydd a blaengynllunio gwan