BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

E-ddysgu

Dysgu o gysur eich cartref ar lefel a chyflymder sy’n addas i chi

Mae ein cyrsiau e-ddysgu rhyngweithiol yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau fydd yn eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd a phresennol ac yn gwella arferion gwaith o fewn eich busnes.

 

Diweddariad pwysig i ddefnyddwyr BOSS

Bydd unrhyw ddysgu a wneir ar BOSS o'r 1af o Ebrill 2026 ymlaen ond yn berthnasol i Weithred Gyffredinol 4 (UA4) y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) os ydych wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio drwy RPW Ar-lein.

Os nad ydych wedi ail-gofrestru eto, rhaid i chi wneud hynny drwy RPW Ar-lein er mwyn sicrhau bod eich dysgu’n cael ei gydnabod at ddibenion yr SFS.

Mae canllaw ar sut i gofrestru gyda Cyswllt Ffermio ar gael yma: Ail-gofrestrwch gyda Cyswllt Ffermio a symudwch i GOV.UK One Login | Farming Connect

Beth yw’r manteision:

  • modiwlau rhyngweithiol byr a ellir eu cwblhau o fewn 20 i 30 munud
  • dysgu o gysur eich cartref eich hun ar amser sy'n gyfleus i chi
  • gwirio eich gwybodaeth ynglŷn â phwnc penodol
  • hunanasesu’r hyn yr ydych wedi’i ddysgu - mae pob cwrs rhyngweithiol yn cynnwys cwis byr

I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.