E-ddysgu
**Nid yw cynnwys Cyswllt Ffermio bellach ar gael trwy wefan BOSS Busnes Cymru. Bydd cwsmeriaid Cyswllt Ffermio yn gallu cael mynediad at eu Cynllun Datblygu Personol (PDP), ceisiadau hyfforddiant, e-ddysgu a Storfa Sgiliau trwy'r Hwb Sgiliau newydd a fydd ar gael o Ddydd Gwener 26 Mehefin. I fanteisio ar y rhain a chynigion eraill mae'n HANFODOL i chi ail-gofrestru gyda'r rhaglen Cyswllt Ffermio newydd.**
Cofrestrwch nawr > Ail-gofrestrwch gyda Cyswllt Ffermio a symud i GOV.UK One Login | Cyswllt Ffermio
Dysgu o gysur eich cartref ar lefel a chyflymder sy’n addas i chi
Mae ein cyrsiau e-ddysgu rhyngweithiol yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau fydd yn eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd a phresennol ac yn gwella arferion gwaith o fewn eich busnes.
Diweddariad pwysig i ddefnyddwyr BOSS
Bydd unrhyw ddysgu a wneir ar BOSS o'r 1af o Ebrill 2026 ymlaen ond yn berthnasol i Weithred Gyffredinol 4 (UA4) y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) os ydych wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio drwy RPW Ar-lein.
Os nad ydych wedi ail-gofrestru eto, rhaid i chi wneud hynny drwy RPW Ar-lein er mwyn sicrhau bod eich dysgu’n cael ei gydnabod at ddibenion yr SFS.
Mae canllaw ar sut i gofrestru gyda Cyswllt Ffermio ar gael yma: Ail-gofrestrwch gyda Cyswllt Ffermio a symudwch i GOV.UK One Login | Farming Connect
Cliciwch yma i fewngofnodi i BOSS trwy Sign on Cymru er mwyn cwblhau modiwlau e-ddysgu.
Beth yw’r manteision:
- modiwlau rhyngweithiol byr a ellir eu cwblhau o fewn 20 i 30 munud
- dysgu o gysur eich cartref eich hun ar amser sy'n gyfleus i chi
- gwirio eich gwybodaeth ynglŷn â phwnc penodol
- hunanasesu’r hyn yr ydych wedi’i ddysgu - mae pob cwrs rhyngweithiol yn cynnwys cwis byr