
Lleoliad: Gogledd Sir Fynwy
Tir: 275 erw / 111 hectar
Da byw: 75 o wartheg bîff
Math o gytundeb: Menter ar y cyd
Proffil y Darparwr
(Amlinelliad o'r cyfle a ddarperir)
Ynglŷn â’r tirfeddiannwr:
Mae’r tirfeddiannwr rhwng 65 a 69 oed ac nid yw’n siarad Cymraeg.
Mae’r fferm yn fferm deuluol, gydag adeiladau wedi’u lleoli’n ganolog a mynediad da i gerbydau nwyddau trwm. Rwyf nawr yn edrych i gymryd cam yn ôl o redeg y fferm o ddydd i ddydd. Buaswn yn croesawu rhywun all ddod ag amser, egni a syniadau newydd i’r busnes gan gynorthwyo i lywio dyfodol y fferm wrth rannu’r gwobrwyon.
Ein nodau dros y 5 mlynedd nesaf:
- Camu’n ôl o redeg y fferm o ddydd i ddydd
- Sicrhau llwyddiant hirdymor y fferm, gan ystyried cyfleoedd arallgyfeirio
- Cynnal statws organig y fferm
Ynglŷn â’r fferm:
Lleoliad (y dref agosaf): Y Fenni
Tir sydd ar gael: Cyfanswm o 275 erw (111 ha), sy’n cynnwys 205 erw o dir organig a 70 erw ychwanegol o dir confensiynol wedi’i leoli tua phum munud mewn car.
Isadeiledd sydd ar gael, h.y adeiladau a chyfleusterau trin: Ar y daliad organig ceir tair sied wartheg, ysgubor, adeiladau storio ychwanegol a chyfleusterau trin da byw. Ar yr ail ddaliad mae sied wartheg newydd gyda chyfleusterau trin, ynghyd ag ysgubor Iseldiraidd ar gyfer storio.
Da byw: Buches o 60 o wartheg bîff, ynghyd â buches fach ar wahân o wartheg Belted Galloway pedigri.
Peiriannau: Mae’r gan y fferm y peiriannau arferol ar gyfer fferm dda byw, gan gynnwys dau dractor, peiriant torri gwair, chwalwr, og glaswellt, beic cwad a blwch stoc.
Llety: Bydd llety ar gael i’r unigolyn llwyddiannus o ddiwedd 2026. Mae tŷ tair ystafell wely wrthi’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd a disgwylir ei gwblhau erbyn diwedd 2026. Yn y cyfamser, mae opsiynau ar gyfer rhentu’n lleol neu ddefnyddio Airbnb gerllaw.
Yr ardal leol: Mae’r fferm wedi’i lleoli yng nghefn gwlad gogledd Sir Fynwy, rhwng Y Fenni a Threfynwy.
Ynglŷn â’r cyfle:
Y math o gytundeb: Menter ar y cyd neu ffermio cyfran yn y lle cyntaf, gyda’r potensial i symud ymlaen at gytundeb tenantiaeth yn y dyfodol os bydd y trefniant yn llwyddiannus.
Prif nodweddion y mae’r tirfeddiannwr yn chwilio amdanynt mewn partner busnes: Unigolyn brwdfrydig, gweithgar ac uchelgeisiol, sydd â’r gallu i ddod â syniadau newydd i’r fferm. Byddai’n ddymunol hefyd pe bai’r unigolyn yn gallu dod â diadell o tua 200 o famogiaid, neu fod â diddordeb mewn datblygu diadell o’r fath.