BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Peiriannau ac Offer

Mae Cyswllt Ffermio yn gweithio gyda rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy ledled Cymru i ddarparu cyrsiau hyfforddi achrededig sy'n cefnogi datblygiad proffesiynol.

Defnyddiwch y cyfeiriadur cyrsiau isod i ddod o hyd i ddarparwr hyfforddiant cymeradwy ar gyfer y cwrs rydych chi wedi'i ddewis.

Gallwch ddewis darparwr sy'n cynnig y cwrs a chysylltu â nhw'n uniongyrchol i drafod dyddiadau, argaeledd a chost y cwrs.

Cyn i chi archebu hyfforddiant achrededig a ariennir gan Cyswllt Ffermio, sicrhewch eich bod:

  • Wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio.
  • Wedi cwblhau Cynllun Datblygu Personol (PDP) drwy eich cyfrif Hwb Sgiliau (Skills Hub).
  • Wedi cwblhau unrhyw fodiwlau e-ddysgu gorfodol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen hyfforddi, lle bo hynny'n berthnasol.
  • Cael cost y cwrs a gwneud cais drwy eich cyfrif Hwb Sgiliau.

Os oes angen rhagor o arweiniad neu gymorth arnoch, gallwch gysylltu â'ch Swyddog Datblygu lleol neu Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio.

Enillwch sgiliau ymarferol drwy gyrsiau hyfforddi Peiriannau ac Offer Cyswllt Ffermio, sydd wedi'u cynllunio i wella diogelwch, effeithlonrwydd a chynhyrchiant ar eich fferm, gyda chyllid o 40% tuag at gost y cwrs.

*Dim ond un cwrs peiriannau ac offer y flwyddyn ac un cwrs plaladdwyr fesul busnes y gall unigolion gael cyllid ar eu cyfer*

Cyrsiau


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.