Sgiliau a Hyfforddiant
Mae'r cyfnod ymgeisio am gyllid sgiliau ar agor.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r ganolfan wasanaeth ar 03456 000813.
Bydd sgiliau a hyfforddiant Cyswllt Ffermio yn eich helpu chi i:
- fagu'r sgiliau allweddol a'r cymwyseddau sydd eu hangen arnoch chi
- gyrraedd eich amcanion personol, busnes a thechnegol
Mae'r holl hyfforddiant yn cael ei ariannu’n llawn neu hyd at 80%.
Am y tro, gellir cwblhau ceisiadau am gyrsiau hyfforddiant ar BOSS. Cliciwch yma i fewngofnodi i BOSS trwy Sign on Cymru.
Diweddariad pwysig i ddefnyddwyr BOSS
Bydd unrhyw ddysgu a wneir ar BOSS o'r 1af o Ebrill 2026 ymlaen ond yn berthnasol i Weithred Gyffredinol 4 (UA4) y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) os ydych wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio drwy RPW Ar-lein.
Os nad ydych wedi ail-gofrestru eto, rhaid i chi wneud hynny drwy RPW Ar-lein er mwyn sicrhau bod eich dysgu’n cael ei gydnabod at ddibenion yr SFS.
Mae canllaw ar sut i gofrestru gyda Cyswllt Ffermio ar gael yma: Ail-gofrestrwch gyda Cyswllt Ffermio a symudwch i GOV.UK One Login | Farming Connect
Os ydych yn bwriadu gwneud cais am gyllid i gwblhau cwrs hyfforddiant achrededig, edrychwch ar y map isod i weld a oes angen i chi gwblhau modiwl e-ddysgu gorfodol cyn gwneud cais am gyllid.
If you need a more accessible version of this document please email businesssupport@gov.wales. Please tell us the format you need. If you use assistive technology please tell us what this is.
Datblygiad Proffesiynol
Cychwyn da gyda chymorth gan Cyswllt Ffermio
Ar ôl cwblhau’r cyrsiau hyfforddiant ‘Cynllunio a Datblygu Busnes’ a ‘Marchnata eich busnes’, magodd Steve yr hyder i lansio ei fusnes ar-lein a dosbarthu newydd, Pembrokeshire Lamb, ac mae’n awr yn gwerthu bocsys o’i gig oen, cig hesbyrniaid a chig dafad ‘gât i’r plât’ gorau yn uniongyrchol i’w gwsmeriaid.