Rhydaman, Sir Gâr
Mae Rhianydd Davies yn hanu o Rydaman, Sir Gâr, ac mae wedi cwblhau ei haddysg yn yr ysgol yn ddiweddar cyn symud ymlaen i astudio ar gyfer Gradd Sylfaen mewn Amaethyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr, Gelli Aur. Yn y cyfamser, mae’n datblygu profiad ymarferol gwerthfawr trwy weithio o fewn y sector amaeth.
Mae Rhianydd wedi profi llwyddiant wrth ddangos da byw a gwaith stocmon ers iddi fod yn ifanc iawn, gan weithio gyda gwartheg Limousin pur yn y lle cyntaf cyn ehangu ei phrofiad ar draws ystod o fridiau gan gynnwys Gwartheg yr Ucheldir, Limousin, Byrgorn a defaid Texel. Mae wedi cyflawni llwyddiant nodedig yn y cylch arddangos, gan gynnwys ennill mewn digwyddiadau mawr megis Sioe Frenhinol Cymru a Sioe Frenhinol yr Ucheldir, gan ddangos gallu technegol a phroffesiynoldeb.
Ochr yn ochr â’i gwaith ymarferol, mae Rhianydd yn aelod gweithgar o’r CFfI, lle mae wedi cyfrannu at gystadlaethau, llywodraethu a gweithgareddau cymunedol, gan gynnwys gweithredu fel ysgrifennydd cofnodion. Mae hi hefyd wedi cynrychioli Sir Gâr mewn cystadlaethau barnu stoc, gan atgyfnerthu ei sgiliau cyfathrebu a dadansoddi.
Gan edrych tua’r dyfodol, nod Rhianydd yw adeiladu gyrfa’n canolbwyntio ar dda byw, gan gyfuno ffermio ymarferol gyda chyfleoedd yn y diwydiant amaeth ehangach. Trwy Raglen yr Ifanc, mae’n awyddus i ddatblygu ei sgiliau cyfathrebu a thrafod, ehangu ar ei phrofiad ac adeiladu rhwydweithiau proffesiynol cryf ar draws y sector.