BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Jed Gerrard Davies

Licswm, Sir y Fflint

Jed Gerrard Davies Mae Jed Gerrard Davies yn ffermwr 20 mlwydd oed o Licswm, Sir y Fflint, sy’n bartner cyfartal ar fenter bîff a defaid ei deulu. Mae’n chwarae rhan ganolog wrth reoli’r fferm, sy’n cynnwys 150 o wartheg, buches o wartheg sugno Duon Cymreig, a 200 o ddefaid Texel croes, ac mae’n gyfrifol am wneud penderfyniadau o ddydd i ddydd, rheoli da byw a gweithgareddau tymhorol megis ŵyna, lloia a chneifio.  

Ochr yn ochr â busnes craidd y fferm, mae Jed wedi datblygu dull entrepreneuraidd cadarn trwy arallgyfeirio. Mae wedi sefydlu busnes ffermio tymhorol, gan ddechrau drwy werthu coed Nadolig, ac ehangu i gynhyrchu pwmpenni a thyfu drysfa india-corn, gan gyfuno ffermio ymarferol gyda gwerthiant uniongyrchol, marchnata ac ymgysylltu gyda chwsmeriaid.  

Mae hefyd wedi magu profiad ymarferol helaeth drwy odro’n achlysurol, ffensio, cneifio a gwaith contractio ar wahanol ffermydd, gan gynnwys treulio rhywfaint o amser yn gweithio ar ffermydd llaeth yng Nghymru ac Iwerddon. Yn ogystal, mae’n cyfrannu at y busnes angladdau teuluol, gan gynorthwyo gyda gweithrediadau a gwasanaeth cwsmeriaid.

Fel aelod brwd o’r Ffermwyr Ifanc, mae Jed yn cymryd rhan weithredol mewn cystadlaethau a gweithgareddau cymunedol. Gan edrych tua’r dyfodol, mae’n awyddus i ehangu ar ei fenter dda byw a’i fusnesau arallgyfeirio. Trwy Raglen yr Ifanc, mae’n gobeithio magu hyder, datblygu syniadau newydd a datblygu ei ddull o sicrhau twf busnes ac arloesedd.


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.