Moelfre, Ynys Môn
Mae Esyllt Lois Hughes yn fyfyrwraig amaethyddiaeth 17 mlwydd oed o Foelfre, Ynys Môn, sydd newydd gwblhau cwrs Amaethyddiaeth Lefel 2 yng Ngholeg Glynllifon a bydd yn mynd ymlaen i wneud Lefel 3 ym mis Medi. Fel rhan o’i hastudiaethau, mae hi wedi datblygu profiad ymarferol mewn rheoli da byw, lles anifeiliaid, gweithredu peiriannau a gwaith cynnal a chadw cyffredinol ar y fferm, gan hefyd fagu hyder a sgiliau gwaith tîm a datrys problemau.
Wedi’i magu ar y fferm deuluol sy’n cadw bîff a defaid, mae Esyllt Lloyd Hughes yn gyfarwydd iawn â da byw ac mae ganddi ddiddordeb brwd mewn lles anifeiliaid a rheoli stoc. Ochr yn ochr â’i hastudiaethau, mae wedi magu profiad ymarferol pellach trwy weithio ym maes carafanau Tyddyn Isaf, lle mae’n gweithio gyda gwartheg Duon Cymreig, yn ogystal â lleoliadau gwaith ar fferm Parciau a Red House, gan fagu profiad mewn gofalu am dda byw, ŵyna, porthi, dosio, trimio traed a pharatoi stoc ar gyfer y farchnad. Mae hi hefyd wedi dechrau godro’n achlysurol ar fferm Yr Orsedd, Llanddona.
Mae Esyllt Lois Hughes yn siaradwr Cymraeg rhugl, yn aelod gweithgar o’r Ffermwyr Ifanc, ac yn mwynhau canu fel rhan o gôr. Wrth edrych tua’r dyfodol, mae’n gobeithio adeiladu gyrfa lwyddiannus o fewn y sector amaeth yng Nghymru, gydag uchelgais i helpu i reoli busnes ffermio blaengar sy’n cyfuno cynhyrchiant da byw gydag arferion cynaliadwy ac effeithlon. Trwy Raglen yr Ifanc, mae’n awyddus i ddatblygu gwybodaeth, hyder a sgiliau arweinyddiaeth, ynghyd â phrofiadau newydd a fydd yn ei chynorthwyo i wneud cyfraniad ar y fferm deuluol ac o fewn y gymuned ffermio ehangach.