BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Abigail Jones

Heol Senni, Aberhonddu

Abigail Jones Mae Abigail Jones yn 18 mlwydd oed ac yn byw yn Heol Senni, Aberhonddu. Mae hi wedi cwblhau Lefel A mewn Bioleg, Cemeg, Mathemateg a Bagloriaeth Cymru yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera yn ddiweddar. Mae’n cyfuno cyflawniad academaidd cadarn gyda phrofiad ffermio ymarferol ar fferm dda byw a thir âr y teulu, lle mae’n gweithio gyda gwartheg Limousin, cnydau tir âr ac yn rheoli ei diadell ei hun o ddefaid Texel miwl croes.  

Ochr yn ochr â’i hastudiaethau, mae Abigail wedi ennill profiad eang ar draws y sectorau amaethyddol a milfeddygol, gan gynnwys gweithio gyda Milfeddygon Honddu a chymryd rhan mewn ysgol haf filfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae hi’n gweithio’n rhan amser yn The Welsh International Rarebit Centre, gan ddatblygu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a chyfathrebu cryf.

Fel aelod brwd o’r Ffermwyr Ifanc, mae Abigail wedi cyflawni sawl rôl arweinyddiaeth, ac mae ganddi ddiddordeb penodol mewn siarad cyhoeddus a barnu stoc. Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil a rhyngwladol, gan gynnwys taith astudio bioleg i Zanzibar, wedi datblygu ei diddordeb mewn bioamrywiaeth, cadwraeth a systemau bwyd cynaliadwy ymhellach.

Ar ôl sicrhau lle i astudio Bioleg yn y Brifysgol, nod Abilgail yw cyfuno gwyddoniaeth ac amaethyddiaeth i gefnogi dyfodol cynaliadwy a gwydn i amaethyddiaeth yng Nghymru. Trwy Raglen yr Ifanc, mae’n awyddus i ehangu ar ei gwybodaeth, archwilio gwahanol systemau ffermio a datblygu syniadau y gall eu rhoi ar waith o safbwynt academaidd ac o fewn y sector amaeth.


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.