- Math o ddigywddiad:
- Wyneb yn Wyneb
- Dyddiad ac amser:
- Lleoliad:
- Rhiwbrongelli + other venues
Event overview
Ymunwch â chriw Cyswllt Ffermio ar gyfer digwyddiad ymarferol ar fferm i archwilio sut gall gwyndonnydd amlrywogaeth weithredu fel yswiriant rhag sychder, a hynny drwy gefnogi twf porthiant, iechyd y pridd, a gwydnwch y fferm yn ystod cyfnodau sych.
Yn ystod y digwyddiad, byddwn yn trafod:
- Dewis y cymysgedd cywir: paru glaswelltau, codlysiau a pherlysiau â’r math o bridd, amodau’r cae a’r defnydd arfaethedig ohono.
- Sefydlu: paratoi’r gwely hadau, amseru’r hau, rheoli cystadleuaeth, a chefnogi rhywogaethau sy’n arafach yn sefydlu.
- Rheoli: pwysau pori, gorffwys ac adfer, cydbwysedd rhywogaethau a pharhad.
- Manteision ehangach: strwythur y pridd, gwerth bioamrywiaeth a chynefin dros dro ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Darperir bwyd a lluniaeth, ac mae presenoldeb yn y digwyddiad hwn yn gymwys tuag at oriau DPP UA4 y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
I neilltuo eich lle, cofrestrwch isod neu cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 03456 000 813.
Os nad ydych wedi eisioes, byddwch angen ailgofrestru gyda Cyswllt Ffermio gan ddefnyddio eich cyfrif One Login GOV.UK newydd.
Mae canllaw ar sut i gofrestru gyda Cyswllt Ffermio ar gael yma: Ail-gofrestrwch gyda Cyswllt Ffermio a symudwch i GOV.UK One Login | Farming Connect
Dyddiad ac amser
| Dyddiad | Amser | Lleoliad | Cost | Speaker | Booking details |
|---|---|---|---|---|---|
| Maw, 8 Medi 2026 | 5 - 7:30yp | Rhiwbrongelli |
FREE |
- | Book online |
| Iau, 10 Medi 2026 | 5 - 7:30yp | Llys Dinmael Isaf |
FREE |
- | Book online |
| Llun, 14 Medi 2026 | 5 - 7:30yp | Penrhiw Farm |
FREE |
- | Book online |
| Gwen, 18 Medi 2026 | 5 - 7:30yp | Manselfold Farm |
FREE |
- | Book online |
Cyswllt
- Enw:
- farmingconnect@menterabusnes.co.uk
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg / We welcome correspondence in Welsh
Beth Sydd Ymlaen
Mae'r gweithdy lefel uchel hwn sy'n canolbwyntio ar gnydau a dyfir mewn caeau yn rhoi'r sgiliau a'r...
Bydd mynychwyr y gweithdy yn gweithio trwy’r agweddau ar reoli sy’n effeithio ar ffrwythlondeb y...
Mae'r gweithdy lefel uchel hwn yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth ymarferol i dyfwyr i weithredu Rheoli...
Bydd mynychwyr y gweithdy yn dysgu am y sefyllfa bresennol gyda Chlafr gan gynnwys yr effaith ar les...