- Math o ddigywddiad:
- Wyneb yn Wyneb
- Dyddiad ac amser:
- -
- Lleoliad:
- Manselfold Farm
Event overview
Ymunwch â chriw Cyswllt Ffermio ar gyfer digwyddiad ymarferol ar fferm i archwilio sut gall gwyndonnydd amlrywogaeth weithredu fel yswiriant rhag sychder, a hynny drwy gefnogi twf porthiant, iechyd y pridd, a gwydnwch y fferm yn ystod cyfnodau sych.
Yn ystod y digwyddiad, byddwn yn trafod:
- Dewis y cymysgedd cywir: paru glaswelltau, codlysiau a pherlysiau â’r math o bridd, amodau’r cae a’r defnydd arfaethedig ohono.
- Sefydlu: paratoi’r gwely hadau, amseru’r hau, rheoli cystadleuaeth, a chefnogi rhywogaethau sy’n arafach yn sefydlu.
- Rheoli: pwysau pori, gorffwys ac adfer, cydbwysedd rhywogaethau a pharhad.
- Manteision ehangach: strwythur y pridd, gwerth bioamrywiaeth a chynefin dros dro ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Darperir bwyd a lluniaeth, ac mae presenoldeb yn y digwyddiad hwn yn gymwys tuag at oriau DPP UA4 y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
I neilltuo eich lle, cofrestrwch isod neu cysylltwch â’r Swyddog Sector Cig Coch a restrir isod.
Os nad ydych wedi eisioes, byddwch angen ailgofrestru gyda Cyswllt Ffermio gan ddefnyddio eich cyfrif One Login GOV.UK newydd.
Mae canllaw ar sut i gofrestru gyda Cyswllt Ffermio ar gael yma: Ail-gofrestrwch gyda Cyswllt Ffermio a symudwch i GOV.UK One Login | Farming Connect
Dyddiad ac amser
| Dyddiad | Amser | Lleoliad | Cost | Speaker | Booking details |
|---|---|---|---|---|---|
| Gwen, 18 Medi 2026 | 5 - 7:30yp | Manselfold Farm |
FREE |
- | Book online |
Cyswllt
- Enw:
- farmingconnect@mentera.cymru
- Email:
- farmingconnect@mentera.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg / We welcome correspondence in Welsh
Beth Sydd Ymlaen
Bydd mynychwyr y gweithdy yn gweithio trwy’r agweddau ar reoli sy’n effeithio ar ffrwythlondeb y...
Gwahoddir newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant amaeth a’r sector llaeth i ddigwyddiad ar y fferm, lle...
Ymunwch â Cyswllt Ffermio ar gyfer y gweithdy ymarferol hwn sy'n rhoi'r sgiliau a'r hyder i dyfwyr...
Gwahoddir ffermwyr sy’n cymryd rhan yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy i fynychu cyfres o ddigwyddiadau...