BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Dechrau Ffermio – Cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa mewn amaethyddiaeth? Mae Cyswllt Ffermio wedi sefydlu naw cyfle ar gyfer lleoliad gwaith â thâl i unigolion sy'n awyddus i ennill profiad ymarferol a datblygu eu sgiliau o fewn y sector ffermio. Gan weithio ochr yn ochr â ffermwyr profiadol ledled Cymru, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ennill profiad ymarferol gwerthfawr, gwybodaeth am y diwydiant a mentora mewn amgylchedd ffermio go iawn. 

Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor ddydd Llun 30 Tachwedd. Croesewir ceisiadau gan unigolion 16 oed a hŷn sy'n byw yng Nghymru ac sydd â diddordeb mewn datblygu gyrfa o fewn y diwydiant amaethyddol. Bydd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn cau ddydd Llun 4 Ionawr 2027 am 23:59pm. 

Bydd y lleoliadau gwaith yn para am o leiaf chwe wythnos. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cyflogi a’u talu gan y busnes sy’n cynnal y lleoliad gwaith wrth ennill profiad ymarferol o fewn y diwydiant amaethyddol. Bydd cyfranogwyr hefyd yn derbyn mentora un-i-un gan ffermwyr profiadol a chael y cyfle i ddatblygu sgiliau technegol, busnes a rheoli da byw gwerthfawr. 

Pam y dylech wneud cais? 

Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y Rhaglen Lleoliadau Gwaith Dechrau Ffermio yn: 

  • Ennill profiad ymarferol ar fferm weithredol. 
  • Dysgu gan ffermwyr a mentoriaid profiadol. 
  • Datblygu sgiliau ffermio ymarferol a thechnegol. 
  • Meithrin hyder a chysylltiadau â'r diwydiant. 
  • Archwilio gwahanol sectorau ffermio a llwybrau gyrfa. 
  • Cryfhau eu CV a'u rhagolygon gwaith yn y dyfodol. 

 

Sut i wneud cais? 

Mae ceisiadau'n agor ar 30 Tachwedd 2026 ac yn cau am 23:59pm ar 4 Ionawr 2027. 

Bydd gofyn i ymgeiswyr gwblhau ffurflen gais ar-lein a nodi’r cyfle maent yn ei ffafrio. 

Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau'r cwrs hyfforddiant ATV, a gynhelir ar unrhyw un o'r dyddiadau canlynol: 25, 27 neu 29 Ionawr 2027. 

P'un a ydych chi'n ystyried dyfodol mewn amaethyddiaeth, yn dychwelyd i'r diwydiant, neu'n edrych i ennill profiad ymarferol cyn astudio neu gael cyflogaeth bellach, mae'r Rhaglen Lleoliadau Gwaith Dechrau Ffermio yn cynnig cyfle unigryw i ddysgu gan ffermwyr profiadol a datblygu eich sgiliau o fewn amgylchedd gwaith cefnogol. 

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â thîm Dechrau Ffermio: 

Gogledd Cymru: Dafi Jones dafi.jones@mentera.cymru / 07538 405048 

Canolbarth a De-ddwyrain Cymru: Hannah Jones hannah.jones@mentera.cymru / 07931 300820 

De Orllewin Cymru: Eiry Williams eiry.williams@mentera.cymru / 07985 155670 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.