BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Adam Payne, Eithin Farm, Crymych, Sir Benfro – Garddwriaeth

Adam Payne
Math o fferm:Mae Adam Payne yn rhedeg busnes Awen Organics gyda Dee Butterly a thîm o 10 tyfwr. Maent wedi datblygu busnes cyfanwerthu amrywiol ac uchel ei barch, yn tyfu 15 erw o lysiau amrywiol ac yn cyflenwi busnesau lleol a rhai o gogyddion mwyaf blaenllaw’r DU drwy gyfanwerthwyr cenedlaethol, yn ogystal â chynllun bocsys llysiau lleol a marchnadoedd ffermwyr.
Oriau gwaith: Mae’r oriau a’r dyddiau yn hyblyg ond byddai’r oriau gwaith nodweddiadol rhwng 9:15am tan 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. 
Lleoliad:Fferm Eithin, Felindre, Crymych, SA41 3XW
Cyflog£12.71 / awr (neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol ar gyfer yr oedran penodol)
Dyddiad dechrau:       Bwriedir i’r lleoliad gwaith hwn ddechrau ar 1 Mai 2027 ac mae’r dyddiad gorffen yn hyblyg. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddechrau’n hwyrach os yw hynny’n fwy cyfleus, byddai o ganol mis Mai i Fehefin yn addas. 
Llety: Dim llety ar gael

Rydym yn chwilio am: 

Ymgeisydd sydd â diddordeb brwd yn y sector garddwriaeth ac organig sy’n fodlon dysgu, gweithio ar ei fenter ei hun, ac yn gallu integreiddio’n barchus o fewn ein tîm presennol. Mae ymrwymiad i waith o safon uchel a chydymffurfiaeth â gweithdrefnau iechyd a diogelwch yn hanfodol bob amser. 

Disgrifiad swydd 

Mae’r lleoliad gwaith hwn yn cynnig cyfle i ddysgu’n ymarferol o fewn ein busnes garddwriaeth sefydledig o safon uchel. Byddwch yn derbyn hyfforddiant cynhwysfawr gan weithio ochr yn ochr â staff profiadol yn ystod cyfnod pwysig y gwanwyn, lle mae’r tîm yn hau, plannu, chwynnu a hyfforddi ystod eang o gnydau yn y caeau ac mewn twneli polythen, yn ogystal â chynaeafu ar gyfer cwsmeriaid cyfanwerthu ac adwerthu.

Prif gyfrifoldebau a chyfleoedd dysgu: 

  • Lluosogi – helpu’r tîm i hau a gofalu am fwy na 200 amrywiaeth a dyfir o hadau yn ardaloedd planhigfa’r fferm 
  • Trin – gweithio gyda’r cydlynydd caeau ar waith trin dros y gwanwyn, gan baratoi gwelyau ar gyfer plannu yn y caeau 
  • Plannu a chwynnu – plannu a chwynnu cnydau ifanc â llaw a gan ddefnyddio tractor 
  • Cynaeafu – cynaeafu ar gyfer cwsmeriaid cyfanwerthu ac adwerthu 
  • Hyfforddi yn y twneli polythen - hyfforddi cnydau tomatos a chiwcymbr yn y twneli polythen 
  • Gwerthu – pecynnu bocsys llysiau, archebion cyfanwerthu a chynorthwyo staff y marchnadoedd ffermwyr 

     

Busnes Fferm Presennol 

  • Mae Awen Organics yn fferm organig fasnachol 32 erw yng Ngogledd Sir Benfro. 

  • Mae’r busnes yn tyfu 15-20 erw o wahanol gnydau organig sy’n cwmpasu o leiaf 200 amrywiaeth o 60 cnwd gwahanol, gan amrywio o gnydau cae traddodiadol i amrywiaethau anarferol arbenigol megis agretti a radicchio. Mae’r planhigion yn cael eu tyfu o had mewn twnnel lluosogi dynodedig. Tyfir y cnydau mewn tair prif system: 

  • 14 erw o lysiau ar raddfa cae mewn system amaeth-goedwigaeth gan ddefnyddio peiriannau i sicrhau’r effeithlonrwydd gorau posibl a defnyddio tail gwyrdd ar gyfer ffrwythlondeb i raddau helaeth 

  • 2 erw o welyau gerddi marchnad llai gyda chyfnodau plannu tynnach a chnydau lluosog fesul tymor ar gyfer cnydau mwy bregus 

  • 10 twnnel polythen ar gyfer tyfu cnydau’r haf ac ymestyn y tymor. 

  • Gwerthir y cnydau’n lleol a thrwy ddosbarthwr cyfanwerthu cenedlaethol, gyda chwsmeriaid presennol yn cynnwys bwytai, tafarndai, caffis, cartrefi, cynlluniau bocsys llysiau, marchnadoedd ffermwyr a siopau fferm. 

  • Mae’r busnes yn masnachu drwy’r flwyddyn gyda phwyslais tymhorol cryf yn ystod misoedd yr haf. Ar frig y tymor, mae’r fferm yn cyflogi 12 o dyfwyr. 

 

Eich rheolwr 

  • Mae gyrfa Adam wedi cynnwys ffermio – integreiddio ffermio da byw gyda thyfu cynnyrch ar raddfa cae – garddwriaeth a gweithio o fewn mentrau cymunedol. 
  • Cafodd ei fagu ar dyddyn yn Swydd Dyfnaint. Yn dilyn astudio yn y brifysgol yn Llundain, bu’n rhedeg busnesau garddwriaeth ar dir rhent ac yn gweithio mewn gwahanol swyddi yn y sector yn y DU ac Ewrop. Yna, symudodd i Gymru yn 2020 gyda’i deulu i sefydlu eu menter garddwriaeth, sef Awen Organics. Wedi iddo ddod o hyd i safle 25 erw addas yn Nanhyfer, Gogledd Sir Benfro, llwyddodd i weithio gyda’r rheoliadau cynllunio o fewn y Parc Cenedlaethol, gan sicrhau cyllid, cynllun busnes, dadansoddi’r pridd, cynllunio cnydau a datblygu marchnadoedd ar gyfer cynnyrch y fferm. 
  • Pedair blynedd yn unig yn ddiweddarach, mae’r fferm wedi tyfu i fod yn fenter llawer mwy gyda digon o offer, isadeiledd, systemau rheoli ac adnoddau staff i gynhyrchu’n llwyddiannus ar raddfa fasnachol hyfyw. 
  • Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Adam a’r tîm yn Awen Organics wedi datblygu menter cyfanwerthu amrywiol ac uchel ei barch, gan gyflenwi busnesau lleol a rhai o gogyddion mwyaf blaenllaw’r DU drwy gyfanwerthwr cenedlaethol, yn ogystal â chynllun bocsys llysiau lleol. Dros y blynyddoedd, mae hefyd wedi cynnal cynllun Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned (CSA) a stondinau mewn marchnadoedd ffermwyr, sydd wedi darparu profiad o ystod eang o fodelau gwerthu uniongyrchol. 
  • Mae cnydau o ansawdd uchel yn cael eu tyfu i’r safonau organig uchaf posibl sy’n ofynnol gan fwytai a phrynwyr cyfanwerthu, ac mae ganddo brofiad sylweddol o gynllunio, tyfu a chynaeafu cnydau. 
  • Wedi iddo reoli mentrau garddwriaeth mewn gwahanol leoliadau gyda gwahanol briddoedd, tywydd, marchnadoedd a chyfleoedd, mae Adam yn hapus i rannu ei brofiad uniongyrchol gyda chi. Disgwyliwch gael eich annog a’ch ysbrydoli wrth iddo egluro sut mae wedi datblygu’r sgiliau dadansoddi angenrheidiol i ganfod opsiynau hyfyw, cyfateb cnydau gyda safleoedd, a sut mae wedi cyflwyno strategaethau rheoli busnes a marchnata llwyddiannus drwy gydol ei fywyd gwaith. 
  • Mae Adam yn gyfathrebwr da ac yn eiriolwr effeithiol, ac mae wedi bod yn rhan o waith yn cynorthwyo newydd ddyfodiaid a chynorthwyo gyda ffermio amaeth-ecolegol drwy Gynghrair Gweithwyr y Tir a La Via Campesina (ECVC) ers nifer o flynyddoedd. Mae’r rolau hyn wedi cynnwys cynhyrchu deunyddiau addysg ar gyfer ffermwyr a thyfwyr, yn ogystal â darparu eiriolaeth a mentora un i un ar gyfer ffermio organig ar raddfa fach a ffermio amaeth-ecolegol. 

 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.