BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Alex Crawley, Whitehall Yard, Trefynwy, Sir Fynwy – Bîff a Defaid

Alex Crawley
Math o fferm:Gwasanaeth pori er lles cadwraeth – gwartheg, defaid a geifr brodorol gwydn, rheoli cynefinoedd er budd natur 
Oriau gwaith:9am - 5pm, un neu ddau ddiwrnod yr wythnos, gyda rhywfaint o waith gwirio stoc ar benwythnosau, ar rota  
Lleoliad:Wedi’i leoli ar fferm Court Farm, Llanddingad, Sir Fynwy, gan deithio’n ddyddiol i safleoedd pori ledled Sir Fynwy, Fforest y Ddena, Henffordd a Swydd Gaerloyw 
Cyflog:£12.71 / awr (neu Gyflog Byw Cenedlaethol cyfatebol ar gyfer oedran penodol)  
Cytundeb:Lleoliad gwaith 12 wythnos (un neu ddau ddiwrnod yr wythnos) 
Dyddiad dechrau: Diwedd Mawrth 2027 
Llety:Na
Gyrru:Trwydded yrru lawn y DU yn hanfodol 

Disgrifiad swydd 

Dyma leoliad gwaith cyffrous ar gyfer newydd ddyfodiad sy’n dymuno gweld ochr wahanol i ffermio: defnyddio da byw fel arf i adfer a rheoli cynefinoedd bywyd gwyllt. Byddwch yn gweithio’n ymarferol gyda’r gwartheg, defaid a’r geifr ar draws ystod eang o safleoedd, o fawndiroedd a choetiroedd hynafol i goederddi a dolydd blodau gwyllt, ac yn dysgu sut mae technoleg fodern yn ein galluogi i bori lleoedd nad yw ffermio confensiynol yn gallu eu cyrraedd. 

Mae hon yn swydd yn yr awyr agored yn bennaf, yn aml ar dirwedd anodd, ym mhob tywydd. Bydd y rôl yn cynnwys rhywfaint o waith codi a chario.  

Byddai’r cyfle hwn yn addas i rywun gyda diddordeb gwirioneddol mewn da byw, ecoleg a thechnoleg, sy’n mwynhau bod yn yr awyr agored ym mhob tywydd, ac yn chwilio am leoliad gwaith lle nad oes dau ddiwrnod yr un fath. 

Ynglŷn â Grazing Management Ltd 

Mae Grazing Management Ltd (GML) yn fusnes pori cadwraeth wedi’i leoli yn fferm Court Farm ar ystâd Old-Lands ger Llanddingad, Sir Fynwy. Rydym yn darparu pori fel gwasanaeth proffesiynol: rydym yn dod â’n stoc brodorol ein hunain - gwartheg Belted Galloway a gwartheg Duon Cymreig, defaid Shetland x Castlemilk Moorit, a geifr Bagot ac Old English - i safleoedd lle mae perchnogion tir a chyrff cadwraeth angen rheoli llystyfiant er budd bywyd gwyllt. Mae ein gwaith yn cynnwys prosiect pedair blynedd o hyd ar SoDdGA Cors Cledan, mawndir ar dir isel lle mae ein gwartheg yn gwaredu gwellt y gweunydd er mwyn galluogi adferiad migwyn; cytundebau gyda Coed Cadw yn Little Doward a gyda Forestry England ar safle Westonbirt Arboretum; adfer dolydd gyda Grŵp Monmouthshire Meadows; a phori geifr ar nifer o henebion hynafol i warchod eu strwythur i atal llystyfiant rhag gordyfu. Ynghyd â phori, rydym yn cynaeafu hadau blodau gwyllt brodorol ac yn darparu gwasanaeth ymgynghori a hyfforddiant ar ran Lantra. 

Yr hyn sy’n gwneud GML yn wahanol yw’r cyfuniad o waith stocmon traddodiadol a thechnoleg a thystiolaeth. Mae ein da byw yn cael eu rheoli gan ddefnyddio coleri ffensys rhithwir GPS Monil a Nofence, sy’n ein galluogi i bori safleoedd sensitif, heb ffensys, sydd ar agor i’r cyhoedd mewn modd manwl gywir a diogel. Rydym yn defnyddio camerâu 4G o bell, dronau, ac rydym wedi treialu synwyryddion bolws LoRaWAN gyda Pasture for Life. Rydym yn gweithio ochr yn ochr ag ecolegwyr proffesiynol sy’n monitro effaith ein pori, fel bod penderfyniadau rheoli’n cael eu harwain gan yr hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad. Mae dull gweithredu GML yn cael ei lywio gan Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield Alex, sef Pori fel Gwasanaeth: Carnau, Cynefinoedd ac Economeg Gadarn, sy’n archwilio sut y gall pori cadwraeth weithredu fel gwasanaeth credadwy, sy’n gynaliadwy ar lefel fasnachol.  

Eich rheolwyr 

Byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gyda chyfarwyddwyr GML, Alex ac Emily Crawley, a sylfaenodd y busnes gyda’i gilydd. Dechreuodd Alex i ffermio fel newydd ddyfodiad heb unrhyw gefndir teuluol ym myd amaeth. Mae’n Ysgolor Nuffield ac yn teimlo’n angerddol dros ddangos bod pori cadwraeth yn gallu bod yn fuddiol i natur yn ogystal ag yn fusnes hyfyw. Mae cefndir Emily yn ymwneud ag addysg amgylcheddol ac mae’n arwain ar hyfforddiant, mentora, ac iechyd a lles anifeiliaid.  

Disgwyliwch gael eich annog i ofyn cwestiynau, rhoi cynnig ar ddulliau newydd a gweld sut mae busnes gwledig sy’n tyfu’n gweithredu.

Ffeithiau am y fferm 

  • Bridiau gwydn brodorol: gwartheg Belted Galloway a gwartheg Duon Cymreig, defaid Shetland x Castlemilk Moorit, a geifr Bagot ac Old English 
  • Da byw’n cael eu rheoli gan ddefnyddio coleri ffensys rhithwir Nofence 
  • Nifer o safleoedd pori ledled Cymru a Lloegr, gan gynnwys mawndir SoDdGA, coetir hynafol a choedardd genedlaethol 
  • Mae partneriaid a chleientiaid yn cynnwys Coed Cadw, Forestry England a Cadw 
  • Cynaeafu hadau blodau gwyllt brodorol a chreu dolydd 
  • Addysg ac allgymorth gydag ysgolion a grwpiau ieuenctid 

Eich rôl 

Ar y lleoliad gwaith hwn, bydd eich rôl a’ch cyfrifoldebau’n cynnwys: 

  • Gwiriadau da byw dyddiol ar draws ein safleoedd, gan sicrhau mai lles anifeiliaid yw eich prif flaenoriaeth 
  • Trin, symud a llwytho gwartheg, defaid a geifr 
  • Gosod a rheoli ffensys rhithwir gan ddefnyddio’r ap Nofence, a monitro coleri a data da byw 
  • Cynorthwyo gyda gwaith monitro ecolegol a dysgu sut mae pori’n effeithio ar gynefinoedd 
  • Siarad gyda cherddwyr, ymwelwyr a defnyddwyr safleoedd ynglŷn â’r anifeiliaid a pham maen nhw yno 
  • Ymuno â chyfarfodydd gyda ffermwyr, perchnogion tir, ecolegwyr a chyrff y  llywodraeth 
  • Gwaith safle ymarferol: cyflenwadau dŵr, trin llociau, ffensio, cynaeafu hadau a chynnal a chadw cyffredinol 
  • Cadw cofnodion cywir o symudiadau stoc, iechyd ac arsylwadau safle 

Mae’n hanfodol bod gennych: 

  • Ddiddordeb mewn da byw – gwartheg, defaid a geifr 
  • Diddordeb mewn ecoleg a’r amgylchedd naturiol 
  • Diddordeb mewn technoleg a sut y gellid ei defnyddio ym myd amaeth 
  • Gweithio’n dda gyda’r cyhoedd 
  • Meddwl agored ac yn barod i roi cynnig ar ddulliau gwahanol 
  • Gallu gyrru, gyda thrwydded yrru lawn y DU 
  • Gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm 
  • Wrth wynebu problem, byddwch yn ymchwilio i atebion, ond hefyd yn gwybod pryd i ofyn am help 
  • Hapus yn gweithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd 

Mae’n ddymunol pe bai gennych: 

  • Rhywfaint o brofiad o drin da byw 
  • Tystysgrif cymorth cyntaf 
  • Gallu gyrru trelar am yn ôl 

Buddion 

  • Profiad ymarferol gyda gwartheg, defaid a geifr brodorol 
  • Profiad ymarferol o dechnoleg da byw, gan gynnwys ffensys rhithwir a monitro o bell 
  • Ystod eang o safleoedd a heriau – ni fydd dau ddiwrnod yr un fath 
  • Cyfarfodydd rheolaidd gyda’r cyfarwyddwyr i gael cipolwg ar y ffordd mae’r busnes yn cael ei redeg 
  • Cyfle i weithio gyda ffermwyr, ecolegwyr a chyrff y llywodraeth  

Os hoffech ddatblygu gyrfa lle mae ffermio da byw ac adferiad natur yn mynd law yn llaw, dyma’r cyfle i chi. 

 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.