10/11/2026
Gall llywio gofynion cynllun newydd fod yn frawychus, ond i ffermwyr yng Nghymru sy'n ymuno â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) newydd, mae'r broses yn cael ei chefnogi gan Cyswllt Ffermio.
Mae Dewi a Gaynor Owens ymhlith dwsinau o ffermwyr hyd yma sydd wedi manteisio ar wasanaeth Cynllun Gweithredu ar gyfer Map Ffordd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a gynigir drwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio.
Mae’r teulu Owens yn ffermio gyda'u mab, Aled, ar gyrion Llannon yn Sir Gaerfyrddin ar Fferm 97 hectar, sef Cwm Howell.
Roedden nhw'n ffermio llaeth ond dair blynedd yn ôl bu iddynt gefnu ar gynhyrchu llaeth ac erbyn hyn maent yn cynhyrchu gwartheg stôr o fuches o wartheg sugno Limousin, Henffordd ac Aberdeen Angus i'w gwerthu trwy Farchnad Dda Byw Caerfyrddin yn 22-24 mis oed.
Mae'r cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru drwy'r Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) wedi bod yn bwysig i'w busnes, ond dywedon nhw ei bod yn gwneud synnwyr iddyn nhw fod ar flaen y gad trwy ymuno â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) newydd cyn i'r cymorth uniongyrchol hwnnw ddod i ben.
"Nid oeddem am oedi cyn cwblhau’r trawsnewidiad gan y byddai angen i ni ymuno â’r cynllun unwaith y bydd y BPS yn dod i ben, ac rydym hefyd mewn sefyllfa well yn ariannol trwy wneud hynny," meddai'r ffermwr pedwaredd genhedlaeth, Dewi.
Er eu bod yn sicr am ymuno â’r SFS, yr hyn yr oeddent yn llai hyderus amdano oedd a oeddent yn bodloni'r meini prawf cymhwyso ar gyfer y taliad sylfaenol, yr haen Gyffredinol.
Rhoddodd Cynllun Gweithredu ar gyfer Map Ffordd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy y canllawiau hynny iddynt.
Rhoddodd y gwasanaeth, sy'n cael ei ariannu 80% gan Cyswllt Ffermio, fynediad iddynt at gymorth a chyngor gan yr ymgynghorydd amaethyddol Ben James, o Bartneriaeth Ffermio Brynmair.
Yn dilyn cyfarfod ar y fferm, cynhyrchodd Ben y Cynllun Gweithredu ar gyfer Map Ffordd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy pwrpasol ar gyfer y teulu Owens i'w helpu i ddeall eu sefyllfa bresennol ac i fapio llwybr clir, cam wrth gam ar yr hyn yr oedd angen iddynt ei wneud i gyflawni'r gweithredoedd cyffredinol.
Roedd gofynion o fewn yr haen honno yr oeddent eisoes yn eu cyflawni. Er enghraifft, roeddent yn cyrraedd y targedau ar gyfer darparu coetir a chynefinoedd. Fodd bynnag, roedd gofynion eraill lle'r oeddent yn methu â chyrraedd y safon ofynnol, megis cwblhau cyrsiau ar reoli cnofilod a sgorio symudedd gwartheg.
Rhoddodd Ben gyngor iddynt ar y cyrsiau yr oedd angen iddynt eu cwblhau, nid yn unig er mwyn sicrhau y gellid prosesu eu cais yn ddidrafferth, ond hefyd er mwyn iddynt feithrin gwybodaeth werthfawr i’w helpu i redeg eu busnes yn y dyfodol. Ariannwyd pob un o’r cyrsiau hyn yn llawn gan Cyswllt Ffermio.
Mae busnes Dewi a Gaynor wedi newid yn sylweddol yn ystod y tair blynedd diwethaf, ac roedd diwedd y BPS yn addasiad mawr arall.
Ond bydd llywio eu ffordd trwy’r SFS ac ymrwymo i’r cynllun yn darparu mwy o sefydlogrwydd i'r busnes yn yr hirdymor.
Roedd eu cyfraniad o 20% ar gyfer eu Cynllun Gweithredu ar gyfer Map Ffordd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ddefnydd da o arian, meddai Gaynor.
"Mae pob fferm yn wahanol felly mae'n gwneud synnwyr i gael rhywfaint o gyngor ar sut mae eich busnes eich hun yn cyflawni rhwymedigaethau'r SFS, heb gymorth Ben byddem wedi cael trafferth," meddai.
Er bod y teulu Owens yn bwriadu ymuno â’r haen gyffredinol yn unig ar hyn o bryd, bydd ffermwyr sydd hefyd yn targedu un neu'r ddwy o ddwy haen arall yr SFS – Dewisol a Chydweithredol – bydd gwasanaeth Cynllun Gweithredu ar gyfer Map Ffordd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn llywio ffermwyr drwy'r rheini hefyd.
Yn ôl Lee Price, pennaeth Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, nid 'ymarfer ticio blychau' ar gydymffurfiaeth yn unig yw'r bwriad ond helpu busnesau i ddeall mwy am y cynllun a bwriad y gweithredoedd cyffredinol y gofynnir iddynt eu cyflawni. Mae meincnodi, er enghraifft, yn gyfle i'r busnes gwblhau dangosyddion perfformiad allweddol (DPAau) a'u cymharu â chyfartaledd y diwydiant a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i gynhyrchiant eu fferm.
ran Gweithred Gyffredinol 10, sy’n ymwneud â phlannu coed, gall ffermwyr y bydd angen iddynt blannu 250 o goed i fodloni’r gofyniad drafod â’u hymgynghorydd ble yr hoffent eu plannu a pham y byddai’r lleoliad hwnnw’n addas – boed hynny er mwyn gwella bioddiogelwch, ehangu coetir presennol neu ddarparu mwy o gysgod a lloches rhag y tywydd i dda byw,” eglura.
Mae nifer o ymgynghorwyr ledled Cymru wedi’u penodi i gyflwyno’r Cynllun Gweithredu.
"Os oes gan ffermwr ddiddordeb, dylent gysylltu â'u Swyddog Datblygu lleol i'w drafod, i ddewis ymgynghorydd ac i wneud y cais am yr 80% o gyllid," meddai Lee.
Yn y blynyddoedd i ddod gall ffermwyr gyfeirio at eu Cynllun Gweithredu i'w galluogi i ddod yn fwy hunangynhaliol wrth lywio'r SFS.
"Mae'n ymwneud â galluogi'r busnes i wneud hynny drostynt eu hunain yn y dyfodol ac i deimlo'n hyderus i wneud hynny," meddai Lee.
Trwy ystod o wasanaethau, gall Cyswllt Ffermio gynnig cymorth gyda phob un o’r 12 gweithred gyffredinol. Os nad ydych chi eisoes wedi gwneud hynny, bydd angen i chi gofrestru gyda Cyswllt Ffermio drwy RPW ar-lein.