
Podlediad
Rhifyn 133 - Amser mewn Amaeth- Pwrpas sy'n llywio blaenoriaethau

Croeso i bennod arall o'r podlediad Clust i’r Ddaear, y gyfres sy’n edrych ar sut i gryfhau perfformiad busnesau fferm—o effeithlonrwydd a chynhyrchiant i reoli adnoddau, cryfhau gwytnwch a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Yn y bennod hon, rydyn ni’n canolbwyntio ar un o adnoddau mwyaf gwerthfawr unrhyw ffermwr: amser. Mae’r ffermwr a’r ymgynghorydd busnes Rhys Williams o Ymgynghori Gwledig Da Byw yn ymuno â ni i drafod y gwahaniaeth rhwng bod yn brysur a bod yn gynhyrchiol, sut i flaenoriaethu’r tasgau sy’n cyfrif, a pham mae neilltuo amser i gynllunio mor bwysig i ddyfodol eich busnes.
Ymunwch â ni am sgwrs ymarferol am weithio’n gallach, gwneud gwell defnydd o’ch amser ac adeiladu busnes fferm sy’n cynorthwyo i gynnal bywyd da.