Mae Cyswllt Ffermio yn gweithio gyda rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy ledled Cymru i ddarparu cyrsiau hyfforddi achrededig sy'n cefnogi datblygiad proffesiynol.
Defnyddiwch y cyfeiriadur cyrsiau isod i ddod o hyd i ddarparwr hyfforddiant cymeradwy ar gyfer y cwrs rydych chi wedi'i ddewis.
Gallwch ddewis darparwr sy'n cynnig y cwrs a chysylltu â nhw'n uniongyrchol i drafod dyddiadau, argaeledd a chost y cwrs.
Cyn i chi archebu hyfforddiant achrededig a ariennir gan Cyswllt Ffermio, sicrhewch eich bod:
- Wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio.
- Wedi cwblhau Cynllun Datblygu Personol (PDP) drwy eich cyfrif Hwb Sgiliau (Skills Hub).
- Wedi cwblhau unrhyw fodiwlau e-ddysgu gorfodol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen hyfforddi, lle bo hynny'n berthnasol.
- Cael cost y cwrs a gwneud cais drwy eich cyfrif Hwb Sgiliau
Os oes angen rhagor o arweiniad neu gymorth arnoch, gallwch gysylltu â'ch Swyddog Datblygu lleol neu Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio.
Buddsoddwch yn eich sgiliau busnes am lai gyda chyrsiau hyfforddiant busnes Cyswllt Ffermio maent yn cynnig gwybodaeth ymarferol i'ch helpu i reoli a datblygu eich busnes, gyda 80% o gost y cwrs wedi'i ariannu.