BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Event

Diogelu’ch porthiant at y dyfodol: Gwyndonnydd amlrywogaeth fel yswiriant rhag sychder

Ymunwch â chriw Cyswllt Ffermio ar gyfer digwyddiad ymarferol ar fferm i archwilio sut gall gwyndonnydd amlrywogaeth weithredu fel yswiriant rhag sychder, a hynny drwy gefnogi twf porthiant, iechyd y pridd, a gwydnwch y fferm yn ystod cyfnodau sych.
Math o ddigywddiad:
Wyneb yn Wyneb
Dyddiad ac amser:
- + other dates
Lleoliad:
Rhiwbrongelli + other venues

Event overview

Ymunwch â chriw Cyswllt Ffermio ar gyfer digwyddiad ymarferol ar fferm i archwilio sut gall gwyndonnydd amlrywogaeth weithredu fel yswiriant rhag sychder, a hynny drwy gefnogi twf porthiant, iechyd y pridd, a gwydnwch y fferm yn ystod cyfnodau sych.

Yn ystod y digwyddiad, byddwn yn trafod:

  • Dewis y cymysgedd cywir: paru glaswelltau, codlysiau a pherlysiau â’r math o bridd, amodau’r cae a’r defnydd arfaethedig ohono.
  • Sefydlu: paratoi’r gwely hadau, amseru’r hau, rheoli cystadleuaeth, a chefnogi rhywogaethau sy’n arafach yn sefydlu.
  • Rheoli: pwysau pori, gorffwys ac adfer, cydbwysedd rhywogaethau a pharhad.
  • Manteision ehangach: strwythur y pridd, gwerth bioamrywiaeth a chynefin dros dro ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

     

Darperir bwyd a lluniaeth, ac mae presenoldeb yn y digwyddiad hwn yn gymwys tuag at oriau DPP UA4 y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

I neilltuo eich lle, cofrestrwch isod neu cysylltwch â’r Swyddog Sector Cig Coch a restrir isod.

 

Os nad ydych wedi eisioes, byddwch angen ailgofrestru gyda Cyswllt Ffermio gan ddefnyddio eich cyfrif One Login GOV.UK newydd. 

Mae canllaw ar sut i gofrestru gyda Cyswllt Ffermio ar gael yma: Ail-gofrestrwch gyda Cyswllt Ffermio a symudwch i GOV.UK One Login | Farming Connect

Dyddiad ac amser

Dyddiad Amser Lleoliad Cost Speaker Booking details
Maw, 8 Medi 2026 5 - 7:30yp Rhiwbrongelli FREE
- Book online
Iau, 10 Medi 2026 5 - 7:30yp Llys Dinmael Isaf FREE
- Book online
Llun, 14 Medi 2026 5 - 7:30yp Penrhiw Farm FREE
- Book online
Gwen, 18 Medi 2026 5 - 7:30yp Manselfold Farm FREE
- Book online

Cyswllt

Enw:
farmingconnect@mentera.cymru

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg / We welcome correspondence in Welsh


Beth Sydd Ymlaen

Mae'r gweithdy lefel uchel hwn yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth ymarferol i dyfwyr i weithredu Rheoli...

Bydd mynychwyr y gweithdy yn gweithio trwy’r agweddau ar reoli sy’n effeithio ar ffrwythlondeb y...

Gwahoddir ffermwyr sy’n cymryd rhan yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy i fynychu cyfres o ddigwyddiadau...

Ymunwch â chriw Cyswllt Ffermio ar gyfer digwyddiad ymarferol ar fferm i archwilio sut gall...


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.