- Math o ddigywddiad:
- Dyddiad ac amser:
- Lleoliad:
- Claire Austin Hardy Plants + other venues
Event overview
Mae'r gweithdy lefel uchel hwn yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth ymarferol i dyfwyr i weithredu Rheoli Plâu Integredig (IPM) yn effeithiol. Gan gynorthwyo i gyflawni Gweithred Gyffredinol 2 y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, mae'r cwrs yn hyrwyddo gwydnwch hinsawdd, yn hybu cynhyrchiant cnydau, ac yn meithrin cydbwysedd ecolegol hirdymor. Trwy gyfarwyddyd sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gweithgareddau rhyngweithiol, ymarferol, bydd cyfranogwyr yn magu hyder mewn rheoli plâu cynaliadwy a gwneud penderfyniadau gwybodus.
Pynciau a fydd yn cael sylw
- Deall IPM - Beth yw IPM a pham ei fod yn bwysig ar gyfer gwydnwch hinsawdd, garddwriaeth a phroffidioldeb
- Camdybiaethau cyffredin
- Rheolaethau biolegol, plannu cydymaith a chreu cynefinoedd
- Strategaethau monitro a chanfod yn gynnar
- Cylchoedd bywyd a thechnegau canfod plâu allweddol
- Atal a rheolaethau diwylliannol – yr amodau gorau posibl ar gyfer y cyfryngau rheoli sy'n cael eu cyflwyno, gan wybod pryd a sut i weithredu.
- Lleihau dibyniaeth ar fewnbynnau cemegol – Rheolaethau biolegol a mecanyddol.
- Mapio a monitro Iechyd Planhigion gan gynnwys templed IPM ar gyfer yr SFS. Casglu data i fapio a chael dealltwriaeth o bwysau a llwyddiannau rheoli o flwyddyn i flwyddyn. (Meincnodi)
I neilltuo eich lle, cofrestrwch isod neu cysylltwch â Sarah Dummett, sarah.dummett@lantra.co.uk
Os nad ydych wedi eisioes, byddwch angen ailgofrestru gyda Cyswllt Ffermio gan ddefnyddio eich cyfrif One Login GOV.UK newydd.
Mae canllaw ar sut i gofrestru gyda Cyswllt Ffermio ar gael yma: Ail-gofrestrwch gyda Cyswllt Ffermio a symudwch i GOV.UK One Login | Farming Connect
Dyddiad ac amser
| Dyddiad | Amser | Lleoliad | Cost | Speaker | Booking details |
|---|---|---|---|---|---|
| Iau, 27 Awst 2026 | 10yb - 1yp | Claire Austin Hardy Plants |
FREE |
- | Book online |
| Mer, 9 Medi 2026 | 10yb - 1yp | Bellis Brothers Farm Shop and Garden Centre |
FREE |
- | Book online |
Cyswllt
- Enw:
- farmingconnect@menterabusnes.co.uk
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg / We welcome correspondence in Welsh
Beth Sydd Ymlaen
Digwyddiad galw-heibio anffurfiol i ffermwyr gwrdd â’u Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio a ail...
Bydd mynychwyr y gweithdy yn gweithio trwy’r agweddau ar reoli sy’n effeithio ar ffrwythlondeb y...
Mae'r gweithdy lefel uchel hwn yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth ymarferol i dyfwyr i weithredu Rheoli...