Chirk, Wrexham
Mae Thomas Graham Gaskin wedi’i leoli ger Y Waun, Wrecsam, ac yn astudio Amaethyddiaeth Lefel 3 ar hyn o bryd yng Ngholeg Llysfasi, wedi iddo gwblhau ei flwyddyn gyntaf yn ddiweddar. Ochr yn ochr â’i astudiaethau, mae Thomas yn gweithio rhan amser ar y fferm deuluol, gan fagu profiad ymarferol gwerthfawr ar draws pob agwedd ar weithrediadau’r fferm o ddydd i ddydd.
Fel ffermwr pedwaredd genhedlaeth, mae Thomas wedi cael ei drochi ym myd amaeth ers iddo fod yn ifanc iawn, gan weithio ar draws meter laeth y teulu a ffermydd teuluol ehangach. Mae’r fferm gartref yn cadw buches Holstein pur, gan fagu anifeiliaid cyfnewid a rheoli da byw o dan wahanol amodau, sydd wedi ei helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol cryf mewn rheoli da byw, defnyddio peiriannau a gwaith yn ymwneud â chnydau.
Mae Thomas yn aelod gweithgar o Glwb Ffermwyr Ifanc Llangollen, lle mae’n cymryd rhan mewn cystadlaethau’n rheolaidd, gan gynnwys siarad cyhoeddus, barnu stoc a gwaith coed, ac mae’n mwynhau mentora aelodau iau. Mae ei gyfraniad i’r Ffermwyr Ifanc a’r cadetiaid wedi ei helpu i fagu hyder, sgiliau arweinyddiaeth a gallu cryf i gyfathrebu.
Gan edrych tua’r dyfodol, nod Thomas yw parhau i ddatblygu’r busnes fferm deuluol trwy gyflwyno syniadau newydd a gwelliannau, gan sicrhau bod y fenter yn parhau i fod yn flaengar ac yn gynaliadwy. Trwy Raglen yr Ifanc, mae’n awyddus i ehangu ei wybodaeth, dysgu o wahanol systemau ffermio a meithrin cysylltiadau ar draws y diwydiant amaeth.